Pennod 5: Menywod a Chyfiawnder – Darparu dull cyfannol o ymdrin â menywod sy’n ymuno â’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru
Listen to “Pennod 5: Menywod a Chyfiawnder – Darparu dull cyfannol o ymdrin â menywod sy’n ymuno â’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru” on Spreaker.
Croeso i bennod gyntaf Cyfres 2 o’r Podlediad Cymunedau Mwy Diogel. Yn y gyfres hon, rydym yn archwilio diogelwch menywod a merched yng Nghymru. Mae’r bennod gyntaf yn trafod cyfiawnder menywod a sut rydym yn bwriadu darparu dull cyfannol o ymdrin â menywod sy’n dod i mewn i’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Yn ymuno â ni mae’r Gwir Anrhydeddus Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru.
Cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth ychwanegol
- Glasbrint Cyfiawnder Menywod Llywodraeth Cymru
- Mae Ymddiriedolaeth St Giles yn rhedeg amryw o wasanaethau wedi’u dylunio i helpu cyn-droseddwyr gyda chyflogaeth, cymorth, hyfforddiant yn y gymuned, a thai/llety argyfwng. Ffoniwch 020 7708 8000.
- Mae gan Nacro Linell Gymorth ar gyfer Adsefydlu a Mwy sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor i gyn-droseddwyr, caracharorion, eu teuluoedd a’u ffrindiau, ac i sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw. Ffoniwch 0300 123 1999.
- Mae gwefan Llinell Gymorth Genedlaethol i Deuluoedd Carcharorion ar gyfer Cymru a Lloegr yn cynnig cymorth i deuluoedd sydd ag anwyliaid yn y system cyfiawnder troseddol. Ffoniwch 0808 808 2003.
- Mae Fy Nghofnod Cymorth gan Gymorth i Ddioddefwyr yn adnodd ar-lein am ddim sy’n cynnwys canllawiau rhyngweithiol (yn cynnwys y daith i gyfiawnder) i’ch helpu i symud ymlaen ar ôl trosedd.
- Mae Unlock yn elusen annibynnol ar gyfer pobl gydag euogfarnau sy’n delio gyda’r effeithiau o gael cofnod troseddol. Ffoniwch 01634 247350.
- Mae gwybodaeth ychwanegol a dolenni defnyddiol ar gael ar wefan Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yma.
Os gwnaethoch chi fwynhau’r bennod hon…
Hoffwch, tanysgrifiwch, ac ymunwch yn y drafodaeth ar Drydar trwy ein tagio @CymMwyDiogel. Efallai yr hoffech chi wrando ar y bennod Saesneg cyfatebol gyda Danielle John, sydd efo profiad byw o’r system gyfiawnder, ac Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru.