Ar 9 Gorffennaf roeddem yn falch iawn o gael ein gwahodd i ddigwyddiad Effaith ar Gymunedau G4S yn y Senedd i gyflwyno Adroddiad Effaith 2024.
Mae Cymunedau G4S yn rhan fach o gwmni ehangach G4S ac yn cefnogi pobl sy’n ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol. Maen nhw’n gweithio ledled Cymru gyda phobl sy’n byw ag anghenion heb eu diwallu, gan gynnwys problemau defnyddio sylweddau a phroblemau iechyd meddwl.
Amlygodd y digwyddiad hanesion y bobl sydd wedi bod drwy’r system cyfiawnder troseddol ac sydd wedi defnyddio gwasanaethau Cymunedau G4S.
Darganfod mwy a darllen yr adroddiad.