Beth: Gwobrau Agoriadol Cymunedau Mwy Diogel Cymru 2023
Pryd: Dydd Iau 30 Tachwedd 2023, 14:00-17:00
Ble: Village Hotel Abertawe, SA1 8QY
Ledled Cymru, mae Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a phartneriaid eraill yn gweithio’n unigol a gyda’i gilydd fel bod pawb yng Nghymru yn teimlo’n ddiogel ac yn rhydd rhag ofn camfanteisio, trosedd ac anhrefn. Mae’r gwaith hwn yn aml yn cael ei wneud yn dawel a chan nifer fach o bobl sy’n frwd dros wneud gwahaniaeth i unigolion, teuluoedd a chymunedau.
Mae Gwobrau Agoriadol Cymunedau Mwy Diogel Cymru 2023 yn cael ei chynnal i gydnabod cyfraniadau eithriadol i ddiogelwch cymunedol mewn cyd-destun aml-asiantaeth. Bydd digwyddiad y prynhawn yn un i ddathlu, ac yn cydnabod y rhai sydd wedi cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl dros y flwyddyn.
Yn ogystal â chydnabod ymdrechion unigolion a phrosiectau a phartneriaethau cydweithredol, bydd hefyd yn rhoi sylw i ddyfarnwyr, cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol diogelwch cymunedol ehangach, yn yr ystyr bod eu gwaith caled yn cael ei werthfawrogi ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion a chymunedau ledled Cymru.
Mae pedwar categori ar ddeg o wobrau, ac enillwyr categorïau yn cael eu dewis gan banel gwobrau.
- Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
- Atal troseddu
- Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Chydlyniant
- Caethwasiaeth Fodern a cham-fanteisio
- Troseddu a Chyfiawnder
- Diogelwch y Cyhoedd
- Diogelu
- Ymyrraeth Gynnar
- Trais Difrifol
- Trosedd Gyfundrefnol
- Terfysgaeth ac Eithafiaeth
- Trais yn Erbyn Menywod a Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Llywodraethu
- Partneriaethau
Cyflwynwch eich enwebiadau ar gyfer gwobrau drwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg erbyn 18 Hydref 2023.