Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Mwy Diogel (16 – 20 Medi 2024), a drefnwyd gan Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru, yn codi proffil diogelwch cymunedol ac yn amlygu gwaith partneriaeth sy’n digwydd ledled Cymru.
Mae gan bawb hawl i fyw mewn cymuned ddiogel, ac mae’n gydgyfrifoldeb i gyflawni hyn. Mae hyn yn cynnwys yr heddlu, tân ac achub, awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd, sefydliadau’r trydydd sector a’r sector preifat yn ogystal â Llywodraethau lleol, Cymru a’r DU.
Mae’r Rhwydwaith yn dod ag ymarferwyr ynghyd o’r sefydliadau hyn i rannu gwybodaeth ac arferion gorau i feithrin cymunedau mwy diogel i ddinasyddion Cymru.
Bydd yr Wythnos Ymwybyddiaeth yn cynnwys nifer o sesiynau ar-lein Cinio a Dysgu a digwyddiadau wyneb yn wyneb. Arweinir y sesiynau gan amrywiol bartneriaid y Rhwydwaith a bydd yn dangos arferion da ledled Cymru.
Mae hyn yn cynnwys cynnal digwyddiad hacathon i edrych ar yr heriau mae opioidiau synthetig yn eu cyflwyno a’r effaith gynyddol ar gymunedau yng Nghymru. Bydd hefyd yn dangos enillwyr Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel y llynedd, Tîm Troseddau Blaenoriaethol Ardal Ganol Heddlu Gogledd Cymru am eu gwaith yn ymchwilio i gam-fanteisio llinellau sirol pobl ifanc.
Meddai Mark Brace, Pennaeth Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru:
“Mae’n hanfodol bod materion diogelwch cymunedol yn cael eu trin mewn partneriaeth. Yng Nghymru mae gennym ddull cydweithredol cryf o ran gwaith gwasanaeth cyhoeddus. Mae’r wythnos hon yn codi proffil diogelwch cymunedol, yn cefnogi cydweithwyr sy’n gweithio mewn diogelwch cymunedol ac yn amlygu ein cydgyfrifoldeb am yr amrywiol gymunedau ledled Cymru.”
Nid yw’n rhy hwyr i gofrestru i fynd i’r sesiynau a rhannu neges yr Wythnos Ymwybyddiaeth yn eich ardal leol. Dysgwch fwy ynglŷn â sut y gallwch chi a’ch sefydliad gymryd rhan yma.