Neidio i'r prif gynnwys

Beth yw diogelwch cymunedol?

Partneriaeth i leihau trosedd ac anrhefn mewn cymunedau lleol yw diogelwch cymunedol. Cyflwynodd yr Adroddiad Morgan y syniad o ‘ddiogelwch cymunedol’ drwy fabwysiadu ymagwedd lleol ‘cyfannol’ i leihau ac atal trosedd. Cafodd y syniad hwn ei ymestyn o fewn Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998, gan roi dyletswydd gyfreithiol ar asiantaethau allweddol i weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â throsedd a gwella diogelwch cyhoeddus yn hytrach na’r heddlu yn unig.

Mae’r termau ‘diogelwch cymunedol’ a ‘chymunedau mwy diogel’ yn aml yn cael eu defnyddio’n gydgyfnewidiol; fodd bynnag, mae ‘cymunedau mwy diogel’ yn gyffredinol yn adlewyrchu’r uchelgeisiau ehangach ar gyfer dinasyddion yng Nghymru. Mae llawer o’r gwaith diweddar mewn perthynas â ‘chymunedau mwy diogel’ yng Nghymru wedi cael ei gymell gan Adolygiad Gweithio gyda’n Gilydd i greu Cymunedau mwy Diogel 2017 Llywodraeth Cymru. Mae’r adolygiad wedi creu gweledigaeth o fodolaeth cymunedau mwy diogel yng Nghymru, lle mae ‘pob cymuned yn gryf, diogel a hyderus mewn modd sy’n darparu cyfleoedd cyfartal, cyfiawnder cymdeithasol, gwytnwch a chynaliadwyedd i bawb’.

 

Partneriaethau Diogelwch Cymunedol

Mae Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, a sefydlwyd gan Ddeddf Trosedd ac Anhwylder 1998, yn cynnwys cynrychiolwyr o’r heddlu, awdurdodau lleol, a gwasanaethau tân, iechyd a phrawf (a elwir yn awdurdodau cyfrifol).  Mae hanner y partneriaid gofynnol wedi’u datganoli yng Nghymru, a adlewyrchir mewn atodiadau i’r Ddeddf, sy’n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru nodi gofynion arbennig naill ai eu hunain neu ar y cyd gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru. 

Mae’r Heddlu a Llywodraeth Leol yn arwain diogelwch cymunedol ar y cyd, ac mae staff dynodedig o fewn awdurdodau lleol yn goruchwylio gweinyddiaeth y Partneriaethau Diogelwch Cymunedol. Mae pob awdurdod cyfrifol yn cyfrannu eu gwybodaeth leol, arbenigedd proffesiynol a’u hadnoddau arbennig eu hunain i sicrhau bod y materion sy’n peri’r pryder mwyaf i bobl leol yn cael eu blaenoriaethu a’u datrys. 

Mae Deddf Trosedd ac Anrhefn 1988 yn diogelu’r syniad o waith partneriaeth statudol i leihau trosedd ac anrhefn yn y gymuned leol . Mae rheoliadau a Deddfau dilynol gan y Swyddfa Gartref, gan gynnwys Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006, wedi ymestyn y gofynion i ddarparu canlyniadau sy’n ymwneud ag atal a lleihau troseddau ac achosion o ail-droseddu, ofn trosedd, ymddygiad gwrthgymdeithasol, camdriniaeth domestig, a’r niwed a achosir gan gamddefnyddio sylweddau. 

Mae cyfrifoldebau statudol Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn cynnwys:

  • Darparu fframwaith ar gyfer rhannu gwybodaeth er mwyn helpu i ddatrys problemau lleol
  • Asesiadau strategol o anghenion sy’n llywio’r gylched ar gyfer cynlluniau Partneriaethau Diogelwch Cymunedol
  • Lleihau achosion o aildroseddu

Comisiynu adolygiadau dynladdiad domestig (a sefydlwyd dan adran 9  Deddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004)

 

Meysydd Gwaith Diogelwch Cymunedol

Ers eu cyflwyno, mae polisïau a deddfwriaethau ychwanegol wedi siapio diogelwch cymunedol a Phartneriaethau Diogelwch Cymunedol, gan gynnwys Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd a gafodd eu cyflwyno o fewn Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, sy’n gyfrifol am gyfuno gwaith diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol. 0}Yn benodol, Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a gyflwynodd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, y mae eu gwaith yn ‘yn gorgyffwrdd yn sylweddol â’r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol’ yn ôl y Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru.  Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn ymgymryd ag asesiadau a chynlluniau lles lleol, sydd, yn ôl y Ddeddf, yn gorfod cymryd asesiadau strategol a baratowyd gan Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol i ystyriaeth.

Mae diogelwch cymunedol yn croestorri ag amrywiaeth o feysydd polisi ac yn dibynnu ar waith amlasiantaeth ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Mae Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn goruchwylio ac yn gyfrifol am nifer o feysydd o dan yr ymbarél diogelwch cymunedol. Mae rhai ohonynt yn cefnogi dyletswyddau arbennig, gan gynnwys mynd i’r afael ag:

  • Anrhefn ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 
  • Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) 
  • Terfysgaeth ac Eithafiaeth 
  • Camddefnyddio Sylweddau
  • Trosedd ac Atal Troseddu mewn modd ehangach

Bydd cyfranogiad mewn meysydd eraill yn dibynnu ar y blaenoriaethau a osodwyd:

  • Trais Difrifol a Throseddau Trefnedig
  • Diogelwch y Cyhoedd
  • Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio

Mae meysydd eraill sy’n cydblethu â gwaith diogelwch cymunedol, megis Diogelu ac Ymyrraeth Gynnar, Cyfiawnder Ieuenctid, Rheoli Troseddwyr Integredig, a Chydraddoldeb, Cynhwysiant a Chydlyniant Cymunedol.

Gallwch ddarganfod sut mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn cefnogi gwaith Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yma.