Neidio i'r prif gynnwys

Lansio’r Ffurflen Atgyfeirio Genedlaethol (NRF) yng Nghymru

Mae Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru wedi cyhoeddi bod y Ffurflen Atgyfeirio Genedlaethol (NRF) yn cael ei lansio yng Nghymru i symleiddio’r broses ar gyfer adrodd am bryderon yn ymwneud â radicaleiddio. Nodweddion Allweddol y Ffurflen Atgyfeirio Genedlaethol: 1. Gwell casglu gwybodaeth: Mae’r ffurflen newydd yn annog cyflwyniadau manwl. Anogir ymarferwyr i ddarparu cymaint o wybodaeth â … Parhad

Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2024: Ymunwch â’r mudiad i #Gwneud Cymunedau Yn Fwy Diogel

Mae Rhwydwaith Cymunedau Diogelach Cymru yn falch o gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2024, menter dan arweiniad Resolve ASB. Yn digwydd rhwng 18 – 24 Tachwedd, mae’r ymgyrch genedlaethol hon yn anelu at godi ymwybyddiaeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol (YGG) ac arddangos ffyrdd effeithiol o fynd i’r afael â’r ymddygiad yn ein cymunedau. Mae’r Thema blwyddyn … Parhad

Ymgyrch: Diogelwch Tân Gwyllt

Mae’r Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynhyrchion (OPSS) yn arwain ymgyrch newydd i gefnogi diogelwch tân gwyllt, gyda chynnwys i’w ddefnyddio gan awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol a’r cyhoedd. Mae OPSS wedi cynhyrchu canllawiau diogelwch ar sut i ddefnyddio tân gwyllt yn gyfrifol, amddiffyn pobl a chadw anifeiliaid i ffwrdd rhag niwed. Darperir cynnwys i’w ddefnyddio gan … Parhad

Peilot Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol Plant (Gwneud Penderfyniadau Datganoledig)

Gwahoddir awdurdodau lleol yng Nghymru sydd â chyfrifoldeb am ofal cymdeithasol plant i Ddigwyddiad Ymwybyddiaeth ac Ymgysylltu rhithwir i ddysgu am y Peilot Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NRM) Plant a sut i gymryd rhan. Mae’r digwyddiad hwn wedi’i gynllunio ar gyfer awdurdodau lleol sydd ddim yn cymryd rhan yn y rhaglen beilot ar hyn o bryd … Parhad

Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Mwy Diogel 2024 – Edrych ymlaen

Yr wythnos ddiwethaf, roedd hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Mwy Diogel 2024 a chymerodd y Rhwydwaith ran mewn nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau. Gallwch ddarllen mwy am weithgareddau’r Rhwydwaith yma. Cofiwch roi Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Mwy Diogel 2025 yn eich dyddiaduron, fe’i cynhelir rhwng 15 – 19 Medi. Pecyn Hyfforddi Cymunedau Mwy Diogel Mae’r Rhwydwaith yn … Parhad

Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Diogelach 2024 – Edrych yn ôl

Roedd yr wythnos diwethaf yn Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Diogelach 2024 ac roedd y Rhwydwaith yn ymwneud â nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau. Roedd yn bleser gennym fynychu’r Brif Gynhadledd Amrywiaeth yn Stadiwm Principality Caerdydd ddydd Llun gyda’n stondin arddangos, gan ymgysylltu â’r rhai a oedd yn bresennol am faterion diogelwch cymunedol ar gyfer holl aelodau’r … Parhad

Rhybudd Diogelwch – Gleiniau Dŵr

Mae’r Swyddfa dros Ddiogelwch a Safonau Cynnyrch (OPSS) wedi cyhoeddi Rhybudd Diogelwch i rybuddio am y risgiau y gall gleiniau dŵr eu peri i blant ac oedolion agored i niwed. Mae hyn yn dilyn camau a gymerwyd gan OPSS i dynnu cynhyrchion anniogel oddi ar y farchnad. Mae’r Rhybudd Diogelwch yn cynghori y dylid cadw … Parhad

Swydd Wag Partner: Swyddog Cefnogi – Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Cyfyngir ceisiadau am y rôl hon i swyddogion presennol neu staff heddlu yn y DU neu sefydliad plismona yn y DU. Mae’r Coleg Plismona’n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol fel y pwyllgorau cydgysylltu Plismona ac Atal Lleol i sicrhau bod Swyddogion Bro a staff yn cael eu cydnabod fel arbenigwyr a’u bod wedi’u hyfforddi’n briodol i … Parhad

Digwyddiadau Cinio a Dysgu ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Diogelach

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Diogelach rydym yn cynnal dau ‘ginio a dysgu’ i rannu rhywfaint o’r gwaith sy’n digwydd ym maes diogelwch cymunedol yng Nghymru ac i dynnu sylw at y gwobrau Cymunedau Diogelach. Cinio a Dysgu: Gwobrau Cymunedau Diogelach Dydd Mawrth 17 Medi 1-2pm: Cofrestrwch yma Mae Gwobrau Cymunedau Diogelach nawr  yn ei … Parhad

Adnoddau a diweddariadau Anhwylder Cymunedol

Yn dilyn y digwyddiad trychinebus a ddigwyddodd yn Southport ddiwedd mis Gorffennaf 2024 a’r golygfeydd treisgar sydd wedi’u dilyn mewn dinasoedd amrywiol o gwmpas y DU, rydym wedi bod yn ffodus na welwyd yr un lefel o drais ac anhrefn yma yng Nghymru.   Fodd bynnag, mae tensiynau’n parhau’n uchel. Mae’r rhwydwaith wedi darganfod a threfnu’r … Parhad