Neidio i'r prif gynnwys

Y Prif Swyddog Tân Roger Thomas yn ymddeol

Mae Roger Thomas, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ac Uwch Swyddog Cyfrifol y Rhwydwaith wedi ymddeol ar ôl bod gyda’r Gwasanaeth am 29 mlynedd. Cafodd Roger ei gydnabod yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin yn gynharach eleni am ei ymrwymiad i’r llu.

Gan ddechrau ei yrfa yn y Gwasanaeth Tân ac Achub ym 1996, mae Roger wedi treulio ei yrfa gyfan yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, gan ddod yn Brif Swyddog Tân ym mis Ebrill 2022. Mae wedi mwynhau gyrfa anhygoel o amrywiol yn y Gwasanaeth Tân ac Achub, ar ôl gweithio drwy’r rhengoedd o Ddiffoddwr Tân i nifer o rolau goruchwylio a rheolwyr canol, gan gynnwys secondiad i Lywodraeth Cymru yn 2007/8. Ymunodd â’r Tîm Arweinyddiaeth Weithredol fel Rheolwr Ardal yn 2014, ac yna rolau Rheolwr Brigâd o 2017.

Mae Roger wedi gweithredu fel Uwch Swyddog Cyfrifol y Rhwydwaith ers mis Mehefin 2022 lle rhoddodd fewnwelediad ac arweiniad i helpu i lunio rhaglen waith a blaenoriaethau’r Rhwydwaith. Mae Roger wedi bod yn allweddol wrth sicrhau bod ffocws partneriaeth wedi bod yn amlwg ar yr agenda ym mhob cyfarfod Bwrdd Cymunedau Diogel, ac yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, talodd aelodau deyrnged i gyfraniad ac effaith Roger ar ddiogelwch cymunedol ledled Cymru. Dangosir enghraifft o ymrwymiad Roger drwy ei gefnogaeth i’r Bwrdd Tanau Gwyllt a’r cynnydd a wnaed gyda Siarter Tanau Gwyllt Cymru.

Mae pawb yn y Rhwydwaith yn diolch i Roger am ei gyfraniad i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, y Rhwydwaith a diogelwch cymunedol ac yn dymuno ymddeoliad hapus a bodlon iddo.