Yr wythnos hon, bydd Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn cynnal y seremoni Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel flynyddol am yr eilwaith yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam.
Mae’r gwobrau yn dathlu gwaith, prosiectau, partneriaethau a phobl sydd wrthi’n gwneud cymunedau yn fwy diogel ar hyd a lled Cymru. Brynhawn dydd Iau, 28 Tachwedd, bydd gweithwyr proffesiynol diogelwch cymunedol yn dod ynghyd yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam, sydd bellach yn enwog, i gael gwybod pwy sy’n ennill y gwobrau eleni.
Fe fydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno gan y cyflwynydd teledu, John-Paul Davies. Cyn ei yrfa ym maes newyddiaduraeth, treuliodd John-Paul bedair blynedd gyda’r Heddlu ac ef oedd y Swyddog Heddlu cyntaf o dde Cymru ers ugain mlynedd i ennill lle ar Gynllun Carlam y Swyddfa Gartref ar gyfer Graddedigion.
Mae’r Seremoni Wobrwyo yn gyfle i ddathlu ac arddangos y gwaith gwych sydd ar y gweill ar hyd a lled Cymru i atal, lleihau a gwneud cymunedau’n fwy diogel mewn categorïau fel Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin domestig a Thrais Rhywiol a Chaethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio.
Meddai Mark Brace, Pennaeth Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru:
“Mae’r gwobrau hyn yn rhoi llwyfan i arddangos yr amrywiaeth o waith gwych sy’n cael ei wneud ar hyd a lled Cymru i gadw cymunedau’n ddiogel. Maent yn dod â chydweithwyr ynghyd i ddathlu unigolion a meddwl yn arloesol, sy’n sicrhau newid.
“Mae pêl-droed yn dod â phobl ynghyd ac mae cynnal y gwobrau yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam yn helpu i dynnu sylw at bwysigrwydd chwaraeon o ran diogelwch cymunedol.”
Caiff y Rhwydwaith ei oruchwylio gan Fwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru, sydd â’r nod o sicrhau y darperir arweinyddiaeth effeithiol ar y cyd i helpu partneriaethau lleol sy’n hyrwyddo cymunedau diogel, cryf a hyderus.
I gael rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith, ewch i www.cymunedaumwydiogel.cymru a dilynwch @CymMwyDiogel ar X (yr hen Twitter) i gael y wybodaeth ddiweddaraf.