Hafan » Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru – Panel Goruchwylio a Chynghori Annibynnol
Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth
Ym mis Medi 2022, cyhoeddodd Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ei Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth. Dyma’r tro cyntaf erioed y mae pob asiantaeth cyfiawnder troseddol yng Nghymru wedi cytuno i gydweithio er mwyn mynd i’r afael â hiliaeth a gwahaniaethu ar sail hil. Mae pob partner cyfiawnder troseddol yng Nghymru wedi cytuno i gydweithio er mwyn datblygu a chyflawni camau gweithredol gwrth-hiliaeth.
Panel Goruchwylio a Chynghori Annibynnol
Lansiwyd y Panel Ymgynghorol a Throsolwg Annibynnol (y Panel) yn 2022 i arolygu cynnydd y Cynllun. Penodwyd aelodau’r Panel, a restrir isod, drwy broses agored ac fe wnaethant dderbyn tâl am eu hamser. Maent yn gweithio i arolygu cynnydd y tîm cyfiawnder troseddol yn erbyn y cynllun ac yn darparu profion a her mewn cyfarfodydd dwywaith y mis a chyngor pan fo’n bosibl.
Sut mae’r Panel yn gweithio
Maent yn gweithio ledled Cymru gyda Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru i helpu gyda mynd i’r afael â gwahaniaethu systemig a’r anfanteision mae pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn eu profi o fewn y System Cyfiawnder Troseddol. Mae eu gwaith yn cynnwys cydweithio gyda’r heddlu, y gwasanaeth prawf, carchardai, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Cyfiawnder Ieuenctid a’r gwasanaeth llysoedd. Mae’r Panel yn herio, cefnogi a darparu cyngor yn weithredol ar ddull Cymru o weithio wrth fynd i’r afael â hiliaeth, gan wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Cymru.