Dechreuodd Mark ei yrfa fel rheolwr cyfrif yn y maes marchnata a recriwtio cyn ymuno â Cabletel, ac yna NTL, lle treuliodd ddeng mlynedd yn y diwydiant ceblau a thelathrebu.
Ymunodd Mark â Heddlu De Cymru yn 2006, gan symud i faes rheoli prosiectau a rhaglenni, ac ymuno ag Awdurdod Heddlu De Cymru yn 2010 fel rheolwr perfformiad, gan ddatblygu dull yr awdurdod o graffu a rheoli perfformiad. Daeth Mark yn rhan o dîm Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn 2012, ac roedd yn gyfrifol am gynllunio a pherfformiad strategol, gan gynnwys datblygu Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu, ac fe’i penodwyd yn Gomisiynydd Cynorthwyol yr Heddlu a Throsedd yn 2016. Mae Mark ar hyn o bryd yn cadeirio Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr a Chwm Taf (Merthyr, Rhondda Cynon Taf) ac yn is-gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg. Mae Mark hefyd yn gyd-gadeirydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol De Cymru, yn is-gadeirydd Bwrdd Cynllunio Ardal Caerdydd a’r Fro ac yn eistedd fel cyfarwyddwr ar Caerdydd AM BYTH, sef Bwrdd Ardal Gwella Busnesau Caerdydd.