Neidio i'r prif gynnwys

Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth - Panel Goruchwylio a Chynghori Annibynnol

Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth

Ym mis Medi 2022, cyhoeddodd Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ei Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth. Dyma’r tro cyntaf erioed y mae pob asiantaeth cyfiawnder troseddol yng Nghymru wedi cytuno i gydweithio er mwyn mynd i’r afael â hiliaeth a gwahaniaethu ar sail hil. Mae pob partner cyfiawnder troseddol yng Nghymru wedi cytuno i gydweithio er mwyn datblygu a chyflawni camau gweithredol gwrth-hiliaeth.

 

Panel Goruchwylio a Chynghori Annibynnol

Lansiwyd y Panel Ymgynghorol a Throsolwg Annibynnol (y Panel) yn 2022 i arolygu cynnydd y Cynllun. Penodwyd aelodau’r Panel, a restrir isod, drwy broses agored ac fe wnaethant dderbyn tâl am eu hamser. Maent yn gweithio i arolygu cynnydd y tîm cyfiawnder troseddol yn erbyn y cynllun ac yn darparu profion a heriau trwy gyfarfodydd chwarterol a chyngor pan fo’n bosibl.

 

Sut mae’r Panel yn gweithio

Maent yn gweithio ledled Cymru gyda Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru i helpu gyda mynd i’r afael â gwahaniaethu systemig a’r anfanteision mae pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn eu profi o fewn y System Cyfiawnder Troseddol. Mae eu gwaith yn cynnwys cydweithio gyda’r heddlu, y gwasanaeth prawf, carchardai, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Cyfiawnder Ieuenctid a’r gwasanaeth llysoedd. Mae’r Panel yn herio, cefnogi a darparu cyngor yn weithredol ar ddull Cymru o weithio wrth fynd i’r afael â hiliaeth, gan wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Cymru.

 

Aelodau’r panel

Mae gan David dros 40 mlynedd o brofiad plismona gweithredol a strategol yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae wedi gwasanaethu gyda Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd a Heddlu De Cymru, lle daeth yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol, gan arwain ar Gudd-wybodaeth Gorfforaethol a Chymunedau a Gweithrediadau. Mae ei rolau uwch blaenorol yn cynnwys Comander Rhanbarthol Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr, Pennaeth Datblygu Corfforaethol, ac Uwch-gynghorydd Polisi Amrywiaeth yr Heddlu.

Roedd yn Gomander Aur y DU achrededig, ac mae wedi arwain portffolios plismona cenedlaethol sy’n cwmpasu Hil ac Amrywiaeth, Cydlyniant Cymunedol, Cyffuriau, a Safonau Proffesiynol, ac mae hefyd wedi cadeirio fforwm gwydnwch amlasiantaeth rhanbarthol. Roedd yn hyfforddwr heddlu cymwys cenedlaethol drwy’r Coleg Plismona.

Ac yntau’n eiriolwr ymroddedig dros gydraddoldeb a chynhwysiant, David oedd Cadeirydd sefydlol Cymdeithas Heddlu Du De Cymru, roedd yn aelod gweithredol o Gymdeithas Genedlaethol yr Heddlu Du, a chynrychiolodd Gymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu yn rhyngwladol ar faterion yn ymwneud ag amrywiaeth.

Ar ôl ymddeol o blismona yn y DU, gwasanaethodd fel Comisiynydd Heddlu Ynysoedd Prydeinig y Wyryf ac yn ddiweddarach fel Uwch-gynghorydd Plismona’r DU yn Llysgenhadaeth Prydain yng Ngwlad yr Iorddonen. Ers dychwelyd i’r DU, mae David wedi gweithio fel ymgynghorydd plismona annibynnol. Mae ei rolau blaenorol wedi cynnwys Arolygydd Cyswllt gyda HMICFRS, Rheolwr Cwynion Cyflogaeth Annibynnol ar gyfer HDC, ac Ymgynghorydd Arweinyddiaeth a Chydraddoldeb Strategol gyda Deep Insight. Mae hefyd wedi gwasanaethu fel aelod lleyg o Bwyllgor Trawsbleidiol Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Hil a Chydraddoldeb.

Swyddog Recriwtio a Chymorth Cyngor y Gweithlu Addysg

 

Mae gan Aminur brofiad helaeth o ymgysylltu â chymunedau ethnig leiafrifol ar lefelau sylfaenol. Gyda chefndir yn y sector cyhoeddus, addysg uwch a’r sector gwirfoddol, mae wrthi’n gweithio fel swyddog recriwtio sy’n hyrwyddo gyrfaoedd mewn addysg, ac yn arwain ar ymdrechion i wneud y gweithlu addysg yng Nghymru yn un mwy amrywiol. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys eirioli ar ran unigolion a oedd yn wynebu gwahaniaethu gyda Chyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol Bae Abertawe, yn ogystal â gwirfoddoli fel Caplan Carchar.

Mae Bharat yn Academydd yn Adran y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae’n darlithio ac yn ymchwilio i bynciau hiliaeth; hawliau dynol; cyfiawnder troseddol; a chamweinyddu cyfiawnder. Mae Bharat hefyd yn aelod o Fwrdd Monitro Annibynnol CEM Eastwood Park. Daw ei ddiddordeb mewn hil a chyfiawnder troseddol o’i amser yn gweithio ar achosion cosb marwolaeth yn Unol Daleithiau America ryw 20 mlynedd yn ôl, a sut mae achosion o anghyfiawnder hiliol tebyg yn digwydd yn ein system cyfiawnder troseddol ein hunain.

Mae Carmel yn gyn-Eiriolwr Annibynnol dros Drais Domestig a Thrais Rhywiol sydd â phrofiad o ddiogelu drwy waith amlasiantaethol, asesu risgiau uchel a chynllunio diogelwch cydlynol. Mae ei gwaith proffesiynol ac academaidd yn canolbwyntio ar y modd y mae hiliaeth strwythurol a hiliaeth yn erbyn pobl Ddu yn cyfrannu at ganlyniadau anghymesur i gymunedau Du. Mae ganddi radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Troseddeg, Cyfiawnder Troseddol a Chyfiawnder Ieuenctid a gradd Meistr â Rhagoriaeth mewn Astudiaethau Pobl Ddu. Mae gan Carmel ymrwymiad dwfn i hyrwyddo gwybodaeth mewn meysydd sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac yn hyrwyddo cyfiawnder.

Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd ac Ieuenctid Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Tîm Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru

 

Mae Hajer yn gweithio i roi cymorth wedi’i dargedu, sy’n sensitif yn ddiwylliannol, i deuluoedd a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol. Ar hyn o bryd, mae Hajer yn cwblhau gradd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol â diddordeb arbennig mewn cydraddoldeb hiliol ac mae hefyd yn aelod o Glymblaid Ffoaduriaid Cymru, sy’n cyfrannu profiad bywyd Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yng Ngogledd Cymru. Mae’n mwynhau cerddoriaeth fyw ac yn aelod o grŵp canu yn Wrecsam.

Swyddog Hyfforddi ac Ymgysylltu yn Race Equality First

 

Junior Seri yw’r Swyddog Hyfforddi ac Ymgysylltu yn Race Equality First, lle mae’n cyflwyno sesiynau hyfforddi a gweithdai ar wrth-hiliaeth ac effaith niwed gamblo, yn enwedig mewn cymunedau ethnig leiafrifol. Gyda chefndir mewn cyfiawnder ieuenctid, mae gan Junior brofiad o weithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc a theuluoedd y mae anghydraddoldeb yn effeithio arnynt.

Ac yntau’n ymarferydd Technegau Rhyddid Emosiynol ardystiedig ac yn fyfyriwr cwnsela, mae Junior yn plethu dulliau sy’n seiliedig ar drawma drwy ei waith ymgysylltu, gan gefnogi llesiant ochr yn ochr ag addysg ac eiriolaeth. Mae’n gallu siarad Ffrangeg yn rhugl ac mae’n ymwneud ers tro byd ag adeiladu cymunedau ar lawr gwlad drwy raglenni plant ac ieuenctid wedi’u hysbrydoli gan y Baha’i.

Cyfarwyddwr Creadigol yn Underground Artist Movement Ltd

 

Mae Kene yn cefnogi talent sy’n dod i’r amlwg a thalent heb gynrychiolaeth ddigonol, ac yn arwain y gwaith o ddarparu rhaglenni creadigol ac addysgol. Mae hyn yn cynnwys dylunio a hwyluso addysg ynghylch ymwybyddiaeth ddiwylliannol sy’n hyrwyddo dealltwriaeth, cynhwysiant ac ymgysylltiad gwybodus â materion yn ymwneud â hil, hunaniaeth ac anghydraddoldeb.

Mae ganddo ddiddordeb cryf mewn gwrth-hiliaeth, tegwch, a rôl profiad bywyd wrth lywio polisïau ac arferion, ac mae wedi ymrwymo i sicrhau bod lleisiau cymunedau ymylol yn cael eu hadlewyrchu mewn prosesau gwneud penderfyniadau ledled Cymru.

Teithiwr Gwyddelig sy’n ymgymryd â chymrodoriaeth PhD ar hyn o bryd, ac yn ymchwilydd ym Mhrifysgol Northumbria

 

Mae Martin yn actifydd ymroddedig ac wedi gweithio mewn llawer o sefydliadau, fel Heddlu Gogledd Cymru, Llywodraeth Cymru, a’r Senedd, i godi ymwybyddiaeth o’r anghydraddoldebau y mae cymunedau’r Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn eu hwynebu.

Mae gan Melanie rolau sy’n golygu gweithio i wella canlyniadau ar gyfer pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol (BAME) ym maes addysg ledled Cymru, ac ym maes iechyd meddwl yn Ne Cymru

 

Mae gan Melanie ddiddordeb cryf mewn anghenion addysgol arbennig ac, ar wahân, ym mhwysigrwydd dull gweithredu sy’n ystyriol o drawma wrth ymdrin ag anghydraddoldeb sy’n ymwneud â thlodi a mudo. Mae Melanie yn cynghori sefydliadau’r sector preifat ar faterion yn ymwneud ag Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant (DEI), ac o bryd i’w gilydd gofynnir iddi roi sylwebaeth yn y cyfryngau ar faterion y dydd yn hyn o beth. A hithau wedi byw yn Seland Newydd, cyfoethogir ei gwaith yng Nghymru gan ddyfnder o brofiad o Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant sy’n ymwneud â’r anghydraddoldeb systemig a brofir gan gymunedau brodorol. Cyn gyrfa o bron deng mlynedd ym maes cynhwysiant, roedd Melanie yn gyfreithiwr yn y DU yn arbenigo mewn cyllid, a bu’n gweithio yn yr Eidal, Japan a Dinas Llundain.

Yn ei hamser hamdden, mae’n cynnal dosbarth ymestyn cymunedol rhad ac am ddim sy’n dod â thrigolion lleol ynghyd i elwa o gwmni ac ymarfer corff.

Ynad mewn gwasanaeth

 

Daw Moawia â chyfoeth o brofiad cyhoeddus i’r tîm. Fel cyn-aelod o Awdurdod Heddlu De Cymru, Ymwelydd Annibynnol â Dalfeydd a Chadeirydd y Panel, Uwch-asesydd Dethol ar gyfer yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer Gwella Plismona, aelod o’r Bwrdd Monitro Annibynnol a Sylwedydd Lleyg, mae Moawia wedi bod yn eiriolwr angerddol dros newid ym maes plismona, cyfiawnder troseddol a’r farnwriaeth. Mae gan Moawia hefyd rolau uwch yn y Farnwriaeth, Coleg Gwent, y Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd, Care After Combat, Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst, Ambiwlans Sant Ioan, Tai Hafod, y Cenhedloedd Unedig, Llywodraeth Cymru, a Chwmnïau Lifrai Dinas Llundain.

Ymarferydd cymunedol ac arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

 

Mae Nkechi Allen Dawson yn ymarferydd cymunedol ac arweinydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, sydd â phrofiad helaeth o weithio ar draws meysydd addysg, cydlyniant cymunedol a diogelu. Hi yw cyd-sylfaenydd Cynefin Pamoja, sefydliad sy’n canolbwyntio ar hybu profiadau bywyd, hyrwyddo cynhwysiant a chryfhau gwydnwch cymunedol ledled Cymru. Mae gwaith Nkechi yn canolbwyntio ar degwch, gwrth-hiliaeth ac ymgysylltu ystyrlon â chymunedau a ymyleiddiwyd, gan gefnogi sefydliadau i ddatblygu arferion sy’n gymwys yn ddiwylliannol, sy’n ystyriol o drawma ac sy’n gynhwysol.

Cyn-gadeirydd Rhwydwaith ym Mhrifysgol Bryste, Cyfarwyddwr Anweithredol Cartrefi Dinas Casnewydd ac Ymgynghorydd Cynhwysiant yn Advance HE

 

Mae gan Robiu gefndir helaeth yn y maes ymgysylltu â’r gymuned a gweithio gyda grwpiau gwahanol. Mae gan Robiu brofiad eang o ymgysylltu cymunedol a gweithio gyda gwahanol grwpiau. Mae’n Ymarferydd Addysg Uwch profiadol â dros ddegawd o brofiad ym maes ymgysylltu â’r gymuned a chynhwysiant. Mae’n rhoi arweiniad sefydliadol a chyngor arbenigol yn rheolaidd ar egwyddorion ac arferion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, yn benodol materion sy’n effeithio ar hil ac ethnigrwydd yn y DU.

Gwaith y Panel

Cyfrifoldebau portffolio aelodau’r Panel

Mae cyfrifoldebau aelodau panel 2026 yn cael eu cytuno ar hyn o bryd a bydd manylion yn dilyn yn fuan.

 

Rhaglen waith Panel

Mae cynllun gwaith y Panel ar gyfer 2026 yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.

Cysylltu â’r Panel

Os hoffech gysylltu gydag aelod o’r Panel neu ganfod rhagor am waith y Panel, llenwch y ffurflen hon.

 

Mae cynnwys y dudalen hon wedi’i ddarparu gan ysgrifennydd y Panel Ymgynghorol a Throsolwg Annibynnol. Dyddiad diwethaf adolygu’r cynnwys – Chwefror 2026