Datganiad Hygyrchedd
Defnyddio’r wefan hon
Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym eisiau cyn gymaint o bobl ag sy’n bosib i allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:
- newid maint y testun
- chwyddo mewn hyd at 300% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
- toglo rhwng hoffterau iaith naill ai Saesneg neu Gymraeg ar gyfer pob tudalen ac adnodd
- llywio rhan fwyaf o’r wefan drwy ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig
- llywio rhan fwyaf o’r wefan yn defnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar ran fwyaf o’r wefan yn defnyddio rhaglen darllen sgrin (yn cynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)
- yn hygyrch mewn sawl fformat dyfais, hynny yw cyfrifiadur/ gliniadur, llechen a ffôn symudol
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w ddefnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Gwyddwn fod rhai rhannau o’r wefan hon ddim yn gwbl hygyrch:
- ni allwch addasu uchder neu ofod rhwng llinellau yn y testun
- dydi dogfennau PDF ddim yn gwbl hygyrch i feddalwedd rhaglen darllen sgrin
Adborth a manylion cyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, e-bostiwch cymunedaumwydiogel@wlga.gov.uk.
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch ymhen 5 diwrnod.
Adrodd ar broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym wastad yn edrych i wella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn darganfod unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu o’r farn nad ydym yn cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: cymunedaumwydiogel@wlga.gov.uk
Gweithdrefn Gorfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Gyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn cysylltwch â’r Equality Advisory and Support Service (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Gyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Web Content Accessibility Guidelines version 2.1 oherwydd y diffygion a restrwyd isod*.
Cynnwys anhygyrch
Delweddau, fideo a sain
Nid oes gan y ddelwedd gefndir ar y dudalen gartref (baner) destun amgen.
Rydym yn bwriadu ychwanegu testun amgen at ddelweddau ar draws gweddill y wefan. Nid oes bwriad i ychwanegu capsiynau i ffrydiau fideo byw gan fod fideo byw yn eithriedig o ddiwallu’r rheoliadau hygyrchedd.
Bydd gan bob pennod podlediad ddogfen PDF Podlediad Ychwanegol, i sicrhau bod y rhai sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw yn gallu cyrchu’r un wybodaeth ac adnoddau. Am y rheswm hwn, bydd Podlediad Ychwanegol dwyieithog ar gael ar gyfer pob pennod, gyda phenodau cyfatebol Cymraeg a Saesneg yn cael eu hystyried yn benodau ar wahân – gan y gallent gynnwys gwybodaeth ychydig yn wahanol yn dibynnu ar y gwestai a’i rôl yn y sefydliad.
PDFs a dogfennau eraill
Efallai na fydd llawer o’n dogfennau PDF a Word hŷn yn cwrdd â safonau hygyrchedd, byddai’r rhain yn ddogfennau hanesyddol neu’n cael eu darparu gan drydydd parti – er enghraifft, efallai na fyddant wedi eu marcio ac felly ddim yn hygyrch i ddarllenydd sgrin. Credwn y byddai hyn yn ‘faich anghymesur’.
Bydd unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddwn yn cwrdd â safonau hygyrchedd.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 17 Medi 2021. Fe’i diweddarwyd ar 18 Hydref 2021, yn dilyn cyfnod profi a gynhaliwyd gan ddatblygwyr ein gwefan, CREO.