Neidio i'r prif gynnwys

Dathlu cefnogwyr diogelwch cymunedol yn Aberystwyth

Aberystwyth fydd yn cael sylw yr wythnos hon wrth i Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru gynnal digwyddiad blynyddol Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel ym Mhrifysgol Aberystwyth am y trydydd tro.

Mae’r gwobrau yn dathlu gwaith, prosiectau, partneriaethau a phobl sydd wrthi’n gwneud cymunedau yn fwy diogel ar hyd a lled Cymru.  Ddydd Iau 27 Tachwedd, bydd gweithwyr diogelwch cymunedol ac arweinwyr lleol yn cwrdd yng nghalon Ceredigion i anrhydeddu’r prosiectau, partneriaethau a phobl sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn wrth gadw ein cymunedau’n ddiogel.

Fe fydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno gan y cyflwynydd teledu, John-Paul Davies. Cyn ei yrfa ym maes newyddiaduraeth, treuliodd John-Paul bedair blynedd gyda’r Heddlu ac ef oedd y Swyddog Heddlu cyntaf o dde Cymru ers ugain mlynedd i ennill lle ar Gynllun Carlam y Swyddfa Gartref ar gyfer Graddedigion.

Bydd y seremoni’n rhoi sylw i gyflawniadau eithriadol mewn meysydd fel mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, cefnogi dioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac atal caethwasiaeth fodern a chamfanteisio. Eleni, bydd categorïau ehangach y gwobrau yn cefnogi gwaith y timau a’r partneriaethau sy’n gwneud y gwaith hwn, yn ogystal ag anrhydeddu cyfraniadau unigol.

Roedd enillydd cyffredinol 2024, Swansea City Chill, yn creu cyfleoedd dargyfeirio, cyfleoedd rhwng y cenedlaethau a chysylltu pobl ar draws y ddinas, gan leihau adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol o bron i 40%. Roedd yn bartneriaeth a oedd yn cynnwys y Cyngor a thimau plismona, y gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid, addysg a sefydliadau’r trydydd sector.

Nid dim ond cydnabod llwyddiant yw bwriad y Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel – maen nhw’n ysbrydoli pobl eraill i gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth. Wrth i Aberystwyth groesawu’r rhai sydd wedi cyrraedd y brig eleni, mae’r digwyddiad yn bwriadu amlygu pŵer cydweithio ac ysbryd cymunedol wrth greu Cymru mwy diogel i bawb.

Meddai Mark Brace, Pennaeth Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru:

“Mae Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel yn rhannu straeon newyddion cadarnhaol nad ydynt yn aml yn cael y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu, ac rydym am gefnogi’r gwaith sy’n digwydd ar draws Cymru. Rydym yn dod â chydweithwyr ynghyd i ddathlu meddwl yn arloesol, sy’n sicrhau newid.

“Mae enillwyr gwobrau eleni yn arddangos yr amrywiaeth o waith gwych sy’n cael ei wneud i gadw cymunedau yng Nghymru yn ddiogel. Rydym yn anrhydeddu gwaith unigolion, timau a phartneriaethau ar draws y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, sy’n gweithio bob dydd i sicrhau cymunedau mwy diogel.”