Mae rhaglen grant newydd yn cael ei sefydlu i gefnogi’r gwaith o gyflawni Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol Llywodraeth Cymru 2024-28.
Bydd y rhaglen newydd hon yn helpu i alinio cyllid â blaenoriaethau polisi, gwella hygyrchedd a thryloywder cyllid, a sicrhau bod amrywiaeth eang o sefydliadau yn gallu defnyddio eu profiad a’u creadigrwydd i helpu i gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru.
Cyn lansio’r grantiau hyn erbyn mis Mai 2025, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfle i gael adborth i lunio’r grantiau. Croesewir adborth ar:
- Y grantiau newydd arfaethedig
- Amserlenni
- Am ba mor hir y darperir y cyllid
- Unrhyw bwyntiau allweddol eraill yr hoffech gael eu hystyried
Anfonwch unrhyw sylwadau erbyn 11 Ebrill i: YrIsadranCydraddoldebAHawliauDynol@llyw.cymru
Grantiau newydd arfaethedig
Bydd dau grant newydd y gellir cystadlu amdanynt yn cael eu sefydlu a’u gweinyddu gan Lywodraeth Cymru.
Arloesi wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a chefnogi pobl (cyfanswm o £300,000 ar gael)
Bwriad y cyllid hwn yw cefnogi sefydliadau’r trydydd sector i arloesi mewn ymateb i heriau sy’n esblygu a chefnogi’r gwaith o gyflawni’r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol. Bydd y dyfarniadau yn £40,000 a throsodd. Byddai ceisiadau arloesol a chydweithredol, a allai gynnwys cyfuno adnoddau neu ddatblygu trefniadau arloesol (e.e. darparu cymorth croestoriadol pwrpasol), yn cael eu hannog.
Ymwybyddiaeth ac Ymgysylltu (cyfanswm o £500,000 ar gael)
Nod y grant hwn yw darparu cyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n codi ymwybyddiaeth o grwpiau lleiafrifol o randdeiliaid, neu ar gyfer cefnogi ymgysylltu â grwpiau o randdeiliaid sydd â nodwedd warchodedig. Mae’r grant hwn yn cael ei lunio i ategu cyllid presennol fel yr arian a ddyrennir i gefnogi digwyddiadau Pride a Windrush.
Bydd dwy lefel o grant ar gael. Mae hyn yn cynnwys elfen o £2,000-£10,000 (y bwriad am y tro yw y bydd yn cyrraedd cyfanswm o £100,000) i ddarparu cymorth i sefydliadau cymunedol llai y mae eu gweithgareddau yn cefnogi pobl â nodweddion gwarchodedig ac na fyddent fel arfer yn cael mynediad at gyllid dan y llywodraeth. Bwriad yr ail lefel yw cwmpasu £10,000-£100,000 i ddarparu cymorth i sefydliadau sy’n cyflwyno nifer o weithgareddau ar raddfa fwy.
Amserlenni
Bwriedir lansio’r ddau grant erbyn mis Mai 2025 gyda chynlluniau i’r ffenestr ymgeisio gau ym mis Medi 2025 a bod ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu erbyn mis Hydref 2025. Bwriedir hefyd y bydd y ddau grant yn rhedeg am 18 mis – 2 flynedd. Bydd adborth a data yn cael eu casglu a’u dadansoddi o’r rownd gyntaf i lywio iteriadau yn y dyfodol.