Neidio i'r prif gynnwys

Fflatiau Lydstep – Dull partneriaeth ar gyfer datrys problem

<<Yn ôl i Astudiaethau Achos

Mae Fflatiau Lydstep yn safle tai cyngor a phreifat uchel a leolir yng Ngabalfa, bwrdeistref boblog y tu allan i Ganol Dinas Caerdydd.   Mae’r fflatiau yn agor allan i gaeau cyhoeddus sydd â mynediad agored ar draws y ddinas.

Roedd diffyg buddsoddiad yn y fflatiau ers eu hadeiladu yn y 1960au, yr ardal o’u hamgylch ac edrychiad ffisegol yr adeiladau yn cael effaith mawr ar y gymuned.   Roedd hyn yn cy nwys ofn bod yn ddioddefwr trosedd neu gael eu targedu a’r canfyddiad am breswylwyr y fflatiau.

Roedd yna dystiolaeth o drosedd, gweithgaredd cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol o amgylch y safle, gan gynnwys sbwriel, difrod troseddol i ffensys ac eiddo, cerbydau wedi eu gadael, tipio anghyfreithlon a phobl ifanc yn bod yn niwsans.

Cafodd ei gydnabod na fyddai un asiantaeth yn unig yn gallu mynd i’r afael â’r problemau hyn a chafodd dull partneriaeth ei fabwysiadu. Roedd hyn yn cynnwys:

  • Swyddogion o Heddlu De Cymru
  • Cyngor Caerdydd
  • Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
  • Cynghorwyr Lleol
  • Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid
  • Priffyrdd
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • Cefnogaeth gan Wirfoddolwyr Gweithredu ar y Stryd
  • Cefnogaeth gan Weinidogaeth Digwyddiadau Bywyd, grŵp cefnogi elusen leol
  • Cefnogaeth gan berchnogion busnes lleol

Roedd yr Ymgynghorwyr Mynd i’r Afael â Lleihau Trosedd wedi cynnal Asesiad Gweledol Amgylcheddol oedd yn nodi nad oedd yna deledu cylch caeedig yn yr ardal a diffyg goleuadau stryd oedd yn gweithio. Roedd yna hefyd ddiffyg gweithgareddau i ieuenctid a chlybiau chwaraeon ar gael i bobl ifanc yn yr ardal.

Nodwyd bod llawer o’r unigolion ifanc oedd yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael eu dylanwadu’n hawdd.  Roedd yna botensial i bobl ifanc hŷn ac oedolion iau fanteisio arnynt, yn arbennig gyda’r gweithgaredd cysylltiedig â chyffuriau yn yr ardal.

Roedd yn anodd nodi unigolion oedd yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol oherwydd yr ardal ddaearyddol agored a’r nifer o lonydd a llwybrau dianc.  Cafodd y rhai a lwyddwyd i’w nodi eu cyfeirio am Gymorth Buan a/neu ddatblygu ar hyd y broses ymyrraeth ymddygiad gwrthgymdeithasol fesul cam, sy’n cynnwys cyflwyno llythyrau rhybudd, cyfarfodydd ar y cyd i nodi a delio gyda gwraidd achos ymddygiad a chynnig cefnogaeth a Chytundebau Ymddygiad Derbyniol.   Dilynwyd ymchwiliadau troseddol hefyd.

Roedd gweithgareddau i leihau digwyddiadau yn yr ardal yn cynnwys patrolau ar droed gweledol uchel yn ystod cyfnodau prysur gan swyddogion partneriaeth, defnyddio’r fan teledu cylch caeëdig, gwasanaethau addysgol yn yr ysgolion lleol, llythyrau ymwybyddiaeth i rieni ac ymarfer casglu sbwriel a phaentio ffensys yn y caeau cyfagos gyda phobl ifanc lleol.    Roedd cynnwys y preswylwyr ifanc yn golygu eu bod yn derbyn perchnogaeth ac roedd ganddynt fwy o barch at yr ardal, oedd yn lleihau’r nifer o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n ymwneud â phobl ifanc.

Cafodd llythyrau eu dosbarthu o amgylch Fflatiau Lydstep hefyd. Roedd hyn yn caniatáu i’r preswylwyr mwyaf bregus gael cysylltiad gyda’r Heddlu, yr Awdurdod Lleol (ALl) a Gwasanaethau Cefnogi ac mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn ymddiriedaeth, parch a gwerthfawrogiad.   Cafodd manylion cyswllt eu gadael i breswylwyr allu siarad gyda’u swyddog lleol ac anogwyd nhw i roi gwybod am faterion oedd yn achosi pryder i’r asiantaeth berthnasol.

Roedd yr ALl wedi cynyddu’r nifer o finiau gwastraff o amgylch yr ardal, wedi trwsio offer yn y parc cyfagos a gosod goleuadau gwell.   Glanhawyd yr ardal y tu allan i’r fflatiau, cafodd tipio anghyfreithlon a cherbydau wedi eu gadael eu symud a thorrwyd gordyfiant.   Roedd mwy o bresenoldeb yr heddlu yn cynnig sicrwydd ac yn gweithredu fel cyfrwng atal a oedd yn cael ei gydnabod gan y gymuned.

Roedd sawl prosiect ymgysylltu a dargyfeiriol yn y gymuned drwy ddarparu arian partneriaeth a cheisiadau am gyllid a chafodd y Prosiect Cymuned Gabalfa ei ailagor drwy’r wythnos, gan gynnig mynediad i bawb.

Roedd y tîm pêl-droed lleol wedi derbyn arian allanol yn caniatáu i ailwampio ac ychwanegu goleuadau ar gyfer y safle ac ardal y clwb sydd bellach yn lleoliad wythnosol ar gyfer Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd i ddarparu sesiynau hyfforddiant a diogelu i bobl ifanc.

Adborth

Garejys Fflatiau Lydstep – Cyn
Garejys Fflatiau Lydstep – Ar ôl

 

 

 

 

 

 

Dywedodd y Rhingyll Andy Nealon, Tîm Diogelwch Cymunedol Caerdydd:  “Mae fflatiau Lydstep yn enghraifft wych o ddatrys problemau mewn partneriaeth gydag asiantaethau allweddol eraill.

 

“Mae wedi darparu canlyniadau hirdymor o ran gostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol, gwelliannau cynaliadwy yn yr ardal ac adborth cadarnhaol gan y gymuned dan sylw.

 

“Mae’r gostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi bod yn brawf o’r cydweithio sydd wedi digwydd rhwng yr holl bartneriaid; mae hyn wedi arwain at fwy o deimlad o ddiogelwch a balchder lleol o fewn y gymuned.”