Neidio i'r prif gynnwys

Gwobrau Dewi Sant ar agor ar gyfer enwebiadau

Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru sy’n cael eu henwebu gan y cyhoedd.

Bob blwyddyn mae 11 o Wobrau Dewi Sant, y 10 cyntaf yn cael eu henwebu ar gyfer gan y cyhoedd:

  • Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Arwr Cymunedol
  • Busnes
  • Ceidwad yr Amgylchedd
  • Chwaraeon
  • Dewrder
  • Diwylliant
  • Gwasanaethu’r Cyhoedd
  • Gwirfoddoli
  • Person Ifanc
  • Gwobr Arbennig y Prif Weinidog

Prif Weinidog Llywodraeth Cymru a’u hymgynghorwyr sy’n penderfynu pwy sy’n cyrraedd y rownd derfynol a’r enillwyr.

Mae’r Gwobrau Dewi Sant yn cydnabod llwyddiannau eithriadol pobl wahanol o Gymru a thu hwnt. Mae enwebiadau ar gyfer y gwobrau 2026 yn cau ar 26 Medi 2025.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sy’n haeddu gwobr, gallwch eu henwebu trwy lenwi ffurflen ar-lein..