Neidio i'r prif gynnwys

Ymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru x Cymorth i Ddioddefwyr

Mae Llywodraeth Cymru a Chymorth i Ddioddefwyr wedi partneru i gyflawni cam nesaf ymgyrch Mae Casineb yn brifo Cymru. Pwyslais yr ymgyrch eleni yw helpu i sefydlu Cymorth i Ddioddefwyr fel sefydliad anfeirniadol ar gyfer pobl y mae troseddau casineb yn effeithio arnynt, ac amlygu’r gefnogaeth a’r cyngor cyfrinachol y gallant eu cynnig.

Nod yr ymgyrch yw grymuso dioddefwyr i ddod i gael y gefnogaeth sydd ar gael iddynt, a bydd hefyd yn parhau i godi ymwybyddiaeth o beth yw trosedd casineb, a hyrwyddo’r gwahanol ffyrdd y gall pobl riportio trosedd gasineb.

Bydd hysbysebion yn rhedeg drwy gydol mis Awst a dechrau mis Medi gan gynnwys ar draws y radio, y wasg leol, a llwyfannau digidol. Mae yna hefyd becyn partner gyda dolenni i asedau ymgyrchu ac enghreifftiau o negeseuon cyfryngau cymdeithasol. Gallwch gefnogi’r ymgyrch trwy ddefnyddio’r postiadau hyn ar eich sianeli.

Gallwch ddod o hyd i’r pecyn partner a’r holl asedau ymgyrch yma.

Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth am droseddau casineb a sut i’w riportio yma.