Neidio i'r prif gynnwys
Archwilio is-bynciau

Cyllid ar gyfer lle mae lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol

Ar Ddydd Mawrth 21 Mai 2024, 14:00 – 15:30, cynhaliodd Rhwydwaith Cymunedau Diogelach Cymru seminar ar gyllid Man problemus ar gyfer Ymddygiad Gwrthgymdeithasol er mwyn cael dealltwriaeth gliriach o ffrwd ariannu’r Swyddfa Gartref sydd ar gael. Gwnaethom edrych ar y goblygiadau ar gronfeydd Trais Difrifol blaenorol ac ystyried rhai o’r cyfleoedd ledled Cymru sydd gan y cyllid hwn i’w cynnig. Cyflwynwyd y seminar gan yr Uned Atal Trais ac roedd yn cynnwys dysgu a chyfleoedd o bob rhan o Gymru. Fe wnaethom gynnwys astudiaeth achos o ardal Heddlu De Cymru yn canolbwyntio ar ddull gweithio mewn partneriaeth i ddatrys problemau.

Mae’r cyflwyniad a’r recordiad isod.

 

Recordiad o’r Seminar