Pwy ydym ni
Fe sefydlwyd Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru i feithrin cymunedau mwy diogel ar hyd a lled Cymru. Rydym yn cynnig cefnogaeth a chymorth, yn gweithio ar y cyd ac yn galluogi datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer ymarferwyr diogelwch cymunedol.
Ein gweledigaeth yw creu cymunedau mwy diogel, cryfach a mwy gwydn ar hyd a lled Cymru.
Ein cenhadaeth yw i gefnogi ymarferwyr, dylanwadu ar bolisi cenedlaethol a hysbysu ymarferwyr i wella darpariaeth leol i sicrhau cymunedau mwy diogel.
Byddwn yn cyflawni’r rhain drwy ein gwerthoedd. I fod yn:
- Llais cenedlaethol yr ymddiriedir ynddo ar ddiogelwch cymunedol
- Yn gynhwysol a chydweithredol
- Yn cael ei arwain gan dystiolaeth
- Yn agored, ymatebol a rhagweithiol
- Gan ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar
Beth rydym yn ei wneud

Rydym yn darparu arweiniad, cefnogaeth ac adnoddau cynhwysfawr i ymarferwyr diogelwch cymunedol a gweithwyr proffesiynol eraill. Rydym yn meithrin partneriaethau, hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi a hwyluso rhannu gwybodaeth i wella gweithgarwch diogelwch cymunedol ar hyd a lled Cymru.
Rydym yn gweithredu fel llais ymarferwyr diogelwch cymunedol ar hyd a lled Cymru, gan weithredu fel canolwr annibynnol pan fo angen i fynegi eu heriau, llwyddiannau a’u safbwyntiau i wneuthurwyr polisi yn Llywodraethau Cymru a’r DU.
Rydym i gyd yn gwybod fod diogelwch cymunedol ar sawl ffurf ar draws Cymru, yn nhermau materion o flaenoriaeth ac ymagweddau lleol. Rydym hefyd yn gwybod fod y gallu i fynd i’r afael ag achosion a chanlyniadau’r materion hyn yn gofyn am waith partneriaeth cryf. Mae rhannu gwybodaeth, codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diogelwch cymunedol yn ogystal â dod â phobl ynghyd yn greiddiol i nod y Rhwydwaith – i greu cymuned o gefnogaeth ar gyfer pawb sy’n ymwneud â diogelwch cymunedol.
Mae ein haelodau’n bartneriaid allweddol sy’n ymwneud â darparu diogelwch cymunedol yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Leol, Plismona yng Nghymru, Llywodraeth Cymru, Gwasanaethau Tân ac Achub, Iechyd Cyhoeddus, y Gwasanaeth Prawf, a’r Trydydd Sector. Yn ogystal, rydym yn gweithio’n agos gyda Phartneriaethau Diogelwch Cymunedol lleol. Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) sy’n cynnal y Rhwydwaith ar hyn o bryd.
Cefndir y Rhwydwaith
Fe sefydlwyd y Rhwydwaith yn Ionawr 2021 fel ymateb ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a’r Heddlu yng Nghymru, yn dilyn cyhoeddi adolygiad Llywodraeth Cymru o waith partneriaeth diogelwch cymunedol yng Nghymru.
Roedd Adolygiad Gweithio Gyda’n Gilydd i greu Cymunedau Mwy Diogel 2017 yn gosod gweledigaeth o ran diogelwch cymunedol yng Nghymru wedi ei yrru gan ymagwedd ar y cyd ac un integredig ac aml-asiantaethol fel bod pob cymuned yn gryf, diogel ac yn hyderus. Seiliwyd y weledigaeth hon ar gyfrifoldeb a rennir gan y llywodraeth, y cyhoedd ac asiantaethau trydydd sector i gydweithio i fynd i’r afael ag ymddygiad niweidiol, gwrthgymdeithasol ac anghyfreithlon.
Rhagwelwyd y byddai:
- Yn seiliedig ar dystiolaeth ac wedi ei arwain gan wybodaeth
- Wedi ei gefnogi gan wybodaeth a sgiliau priodol
- Wedi ei ariannu’n gynaliadwy ac yn addas i’r ardal leol
- Yn atal ac yn ymyrryd cyn gynted â phosibl
- Yn canolbwyntio ar welliannau a buddion yn y tymor hir
Cafodd sefydlu Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel ei argymell fel rhan allweddol o’r ymagwedd hon ac mae wedi esblygu yn rhan bwysig o’r dirwedd partneriaeth yng Nghymru.
Mae Bwrdd Gweithredol Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn goruchwylio’r Rhwydwaith ac yn darparu trefn lywodraethu ar y cyd rhwng Llywodraeth Leol, Plismona yng Nghymru a Llywodraeth Cymru. Mae tîm y rhwydwaith yn rhoi mewnbwn i’r Bwrdd, y mae ei nod yw sicrhau arweinyddiaeth a rennir effeithiol sy’n cefnogi gweithio mewn partneriaeth leol ac yn hyrwyddo cymunedau diogel, cryf a hyderus.