Neidio i'r prif gynnwys

Digwyddiadau Cinio a Dysgu ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Diogelach

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Diogelach rydym yn cynnal dau ‘ginio a dysgu’ i rannu rhywfaint o’r gwaith sy’n digwydd ym maes diogelwch cymunedol yng Nghymru ac i dynnu sylw at y gwobrau Cymunedau Diogelach.


Cinio a Dysgu: Gwobrau Cymunedau Diogelach


Dydd Mawrth 17 Medi 1-2pm: Cofrestrwch yma

Mae Gwobrau Cymunedau Diogelach nawr  yn ei hail flwyddyn, yn dathlu llwyddiannau ym maes diogelwch cymunedol. Byddwn yn arddangos enillydd cyffredinol blwyddyn diwethaf , Ymgyrch Blue Tylluan o Dîm Troseddau Blaenoriaeth Ardal Ganolog Heddlu Gogledd Cymru.

Ymunwch â’r digwyddiad hwn i ddarganfod mwy am y categorïau gwobrau, sut i gystadlu a’r seremoni wobrwyo eleni.

Cinio a Dysgu: Cydweithio i sicrhau canlyniadau gwell

Dydd Mercher 18 Medi, 1-2pm: Cofrestrwch yma

Mae diogelwch cymunedol yn gyfrifoldeb cydweithredol – y Llywodraeth, y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector gwirfoddol, y sector preifat a’r cymunedau eu hunain.

Clywch gan Ben Lloyd, Cyfarwyddwr yn Cymunedol G4S, am yr effaith y mae cydgyfrifoldeb yn ei chael ar y canlyniadau i unigolion.

Dysgwch fwy am Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Diogelach a sut y gallwch chi gefnogi’r ymwybyddiaeth trwy ymweld â’r dudalen we hon.