Neidio i'r prif gynnwys

Datrys cwyn am sŵn mewn cymdogaeth

<<Yn ôl i Astudiaethau Achos

             

Roedd dyn yng nghanol ei 70au yn rhoi galw enfawr ar y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus gydag adroddiadau niferus am sŵn yn dod o eiddo ei gymydog. Roedd yn honni bod y sŵn yn digwydd bob awr o’r dydd a’i fod yn ei gadw’n effro gan effeithio ar ei iechyd. Nid oedd y dioddefwr yn rhoi gwybod am y broblem sŵn honedig pan oedd yn digwydd, yn hytrach, byddai’n cysylltu â’r Heddlu y diwrnod canlynol.

Er mai Adran Iechyd yr Amgylchedd yr Awdurdod Lleol, Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir, neu’r gymdeithas dai os yw hynny’n briodol, sy’n delio â materion sy’n ymwneud â sŵn heb unrhyw ffactorau gwaethygol, tynnwyd sylw Swyddog Dioddefwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Cyngor Rhondda Cynon Taf at y mater hwn. Cynhaliwyd Asesiad Risg a nododd sgôr Risg Canolig i’r dioddefwr.

Oherwydd lefel y risg, aeth yr Heddlu i’r cyfeiriad i siarad â’r dioddefwr am y problemau sŵn yr oedd yn eu profi. Siaradwyd â’r cymydog hefyd am eu hymddygiad a’u gweithredoedd yn yr eiddo. Gofynnwyd i’r dioddefwr osod The Noise App ar ei ffôn symudol i recordio’r niwsans sŵn, ond roedd yn cael trafferth wrth ei ddefnyddio ac ni allai recordio’r sŵn pan oedd yn digwydd.

Roedd y problemau sŵn yn parhau, felly trefnwyd cyfarfod amlasiantaeth gyda chynrychiolwyr o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Rhondda Cynon Taf a Heddlu De Cymru lle cytunwyd y byddai’r Cyngor yn gosod offer monitro sŵn yng nghyfeiriad y dioddefwr. Cwblhawyd hyn ar ddau achlysur gwahanol.

Wrth adolygu’r recordiadau, ni chlywyd unrhyw bryderon o ran sŵn.  Sŵn bywyd o ddydd i ddydd oedd i’w glywed, gan gynnwys y cymdogion yn siarad a sŵn dyfeisiau gemau. Ni nodwyd unrhyw niwsans sŵn statudol nac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Er mwyn ceisio deall y problemau sŵn a datrys y broblem i’r dioddefwr, cytunodd y ddwy ochr i gymryd rhan mewn cyfryngu. Mae cyfryngu yn golygu set o gamau wedi’u hen sefydlu sy’n helpu pobl i gyfathrebu, datrys problemau a materion trwy ganolbwyntio ar effaith yn hytrach na bai.  Mae cyfryngwyr yn ddiduedd ac maen nhw’n darparu cefnogaeth empathig i’r ddwy ochr mewn proses lawn a theg.

Canlyniadau

Roedd cyfryngu’n llwyddiannus y tro hwn, a chafodd problem y dyn ei datrys trwy ennill dealltwriaeth o ffyrdd o fyw, gwahanol synau o ddydd i ddydd a dyluniad yr eiddo, a derbyn y pethau hyn.  Mae’r dioddefwr yn byw ar ei ben ei hun ac yn anaml iawn y bydd ymwelwyr yn dod i’w gartref.  Mae’r cymydog yn fam â mab yn ei arddegau sy’n mwynhau chwarae ar ddyfeisiau gemau. Roedd gosodiad y ddau eiddo yn golygu mai gwahanfur tenau iawn sydd rhwng ystafell wely’r dioddefwr ac ystafell wely’r mab, sy’n golygu eu bod yn gallu clywed ei gilydd.  Dywedodd y person ifanc wrth y dioddefwr fod ei chwyrnu yn amharu arno’n aml.

O ganlyniad, mae perthynas well rhwng y cymdogion ac ni roddwyd gwybod am unrhyw broblemau pellach o ran sŵn.