Ein pwrpas yn Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yw dod ag ymarferwyr gyda’u gilydd i fynd i’r afael â heriau, rhannu arferion gorau a gwybodaeth. Ein nod yw bod yn llais strategol sy’n hyrwyddo ac yn cysylltu pawb sy’n ymwneud â diogelwch cymunedol fel y gallant greu cymunedau mwy diogel.
Er mwyn ein helpu i wneud hynny, rydym yn gofyn am eich adborth ar sut rydych yn ymgysylltu â’r rhwydwaith i sicrhau ein bod yn cyfathrebu â chi yn y ffordd orau bosibl.
Rydym yn cynnal arolwg o’n haelodau a’n partneriaid a hoffem gael adborth gan gynifer o wahanol unigolion mewn cymaint o rolau gwahanol â phosibl gan y sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw.
Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau ac mae’n ddienw.
Rydym ond yn gofyn am deitl eich swydd i’n galluogi i ddeall mwy am bwy sy’n ymgysylltu â ni. Mae’r cwestiynau i gyd yn ddewisol, heblaw am fath o sefydliad, ond byddem yn gwerthfawrogi cymaint o adborth ag y gallwch ei roi i ni, gan y bydd hyn yn ein galluogi i wella a mireinio ein cynigion i chi.