Neidio i'r prif gynnwys

Arian cymunedol OPSS ar gyfer diogelwch cynnyrch

Mae’r Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch (OPSS) wedi lansio eu cronfa contract cymunedol. Eleni mae’r cyllid yn canolbwyntio ar ddwy thema diogelwch cynnyrch gwahanol:

  • Thema 1: Ymwybyddiaeth Gymunedol Diogelwch Cynnyrch
  • Thema 2: Ris o dân sy’n gysylltiedig ag e-feiciau, e-sgwteri, pecynnau trosi, eu batris a’u gwefrwyr.

Nod y cyllid contract cymunedol yw i ddefnyddwyr gael eu haddysgu’n well am risgiau sy’n gysylltiedig â diogelwch cynnyrch a chael eu grymuso i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel. Mae cyllid ar gael ar gyfer prosiectau o dan £10,000 (eithrio TAW). Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar bwy all wneud cais am gyllid, ond rhaid cwblhau ceisiadau erbyn dydd Gwener 6 Rhagfyr.

Bydd angen i brosiectau sy’n derbyn cyllid llwyddiannus gael eu cyflawni rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2025.

Bydd OPSS yn ariannu gweithgaredd sy’n:

  • Gwella ymwybyddiaeth defnyddwyr am sut i ddewis a defnyddio cynhyrchion yn ddiogel
  • Rhoi addysg neu gyngor diogelwch cynnyrch i ddefnyddwyr
  • Yn grymuso defnyddwyr i gymryd camau i’w diogelu eu hunain ac eraill rhag niwed sy’n gysylltiedig â chynhyrchion
  • Syrthio o fewn eu cylch gwaith. Ni allant ariannu ceisiadau am fwyd, cemegau, cynhyrchion meddygol na cherbydau.

Dylai sefydliadau sy’n dymuno gwneud cais ymweld â chyllid cymunedol OPSS ar gyfer tudalen we diogelwch cynnyrch.