Neidio i'r prif gynnwys

Ein Rhwydweithiau Partner

Mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru’n gweithio gyda nifer o grwpiau, Byrddau a Rhwydweithiau gwahanol. Mae’r tri grŵp canlynol yn cydweithio gyda ni, rydym yn darparu ysgrifenyddiaeth ac yn cynnig mathau eraill o gefnogaeth iddynt. Hefyd, mae cyswllt uniongyrchol rhwng dau o’r grwpiau a rhaglen waith Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru.

 

Rhwydwaith Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Cadeirir y Rhwydwaith Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol gan ymarferwr o Torfaen Mwy Diogel, ac mae cysylltiad uniongyrchol rhwng y rhwydwaith a blaenoriaeth 4 ar gyfer y Bwrdd. Mae’n cyfarfod ddwy neu dair gwaith y flwyddyn ac mae ar agor i Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol o Awdurdodau Lleol, yr Heddlu, Tai, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r Trydydd Sector.

Cylch Gorchwyl ar gyfer Rhwydwaith Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (Saesneg yn unig)

 

Rhwydwaith Gwella Data a Dadansoddi Arloesol Cymru (WDAIIN)

Cadeirir WDAIIN gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, ac mae cyswllt uniongyrchol rhwng y rhwydwaith a blaenoriaeth 3 ar gyfer y Bwrdd. Mae’n cyfarfod yn chwarterol ac ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn Dadansoddi Data a gwella prosesau rhannu a defnyddio data’n gyson ar draws Cymru.

Pwrpas WDAIIN yw darparu arweinyddiaeth, goruchwyliaeth a chyfarwyddiaeth rhwng bob partner mewn perthynas â dadansoddi data. Darparu goruchwyliaeth er mwyn galluogi arloesedd a gwelliant a gefnogir gan ddata a gwaith dadansoddol ar draws Cymru gyfan, darparu cefnogaeth i waith partneriaeth lleol a fydd yn cefnogi cymunedau diogel, cryf a mwy hyderus.

Cylch Gorchwyl WDAIIN (Saesneg yn unig)

 

Cymdeithas Swyddogion Diogelwch Cymunedol Cymru (WASCO)

Mae WACSO yn cynnwys Swyddogion Diogelwch Cymunedol o’r 22 Awdurdod Lleol ar draws Cymru. Y Rheolwr Diogelwch Cymunedol o Gyngor Gaerdydd, sy’n aelod o Fwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru, yw’r Cadeirydd ar hyn o bryd.

Cylch Gorchwyl WACSO (Saesneg yn unig)

Os ydych chi am fod yn rhan o un o’r Rhwydweithiau Partner, cysylltwch â ni.