Ymhob cornel o Gymru, o strydoedd prysur Caerdydd i fryniau Powys, mae diogelwch cymunedol yn flaenoriaeth a rennir. Os nid lleihau ystadegau trosedd na chynyddu presenoldeb yr heddlu yn unig yw diogelwch. Mae’n ymwneud â meithrin synnwyr o berthyn, ymddiriedaeth a pharch ymysg pobl sy’n byw ochr yn ochr. Felly eleni, mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn rhoi’r pwyslais ar gydlyniant cymunedol, integreiddio a chynhwysiant.
Mae cydlyniant cymunedol yn fwy na geiriau yn unig. Dyma’r glud sy’n cynnal cymunedau ynghyd, gan alluogi pobl o gefndiroedd, diwylliannau a phrofiadau gwahanol i gyd-fyw. Yng Nghymru, lle mae ein cymunedau yn gyfoeth o hanes, iaith a hunaniaeth, mae cydlyniant yn her ac yn gyfle. Mae’n golygu cydnabod ein gwahaniaethau a dathlu’r hyn sydd yn ein huno – ein gwerthoedd a rennir, ein hymrwymiad i degwch, a’n cred mewn cymdeithas fwy diogel a chynhwysol.
Pan mae cymunedau yn gydlynol, maent yn gadarn. Mae pobl yn gofalu am ei gilydd. Maent wedi’u grymuso i siarad, i gefnogi eu cymdogion, ac i ymgysylltu gyda gwasanaethau lleol. Gall y synnwyr hwn o undod atal trosedd, lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, a gwrthweithio ynysiad sy’n aml yn arwain at ddiamddiffynedd. Yn gryno, cydlyniant yw conglfaen diogelwch.
Ond nid yw cydlyniant yn digwydd ar hap. Mae’n golygu buddsoddiad, mewn amser, mewn perthnasau a gweithio mewn partneriaeth ac mewn polisïau cynhwysol. Mae’n golygu creu gofodau lle gall bobl gysylltu, trwy ganolfannau cymunedol, digwyddiadau lleol neu lwyfannau digidol. Mae’n golygu gwrando ar leisiau sy’n cael eu tangynrychioli, mynd i’r afael â gwahaniaethu a sicrhau fod pawb, beth bynnag yw eu hoedran, ethnigrwydd, rhyw neu allu, yn teimlo ei bod yn perthyn.
Yng Nghymru, mae gennym draddodiad balch o ysbryd cymunedol. O sefydliadau’r glowyr i fentrau llawr gwlad heddiw, gwyddwn y pŵer o ddod ynghyd. Ond rhaid i ni hefyd wynebu’r heriau: cynnydd mewn trosedd casineb, pegynnu cymdeithasol ac effaith anghydraddoldeb economaidd. Mae’r materion hyn yn bygwth cydlyniant, ac yn ei dro, diogelwch.
Dyma’r rheswm pam fod yr wythnos ymwybyddiaeth mor bwysig. Mae’n gyfle i adlewyrchu, i rannu straeon ac i ymrwymo i weithredu. Os ydych chi’n lluniwr polisi, arweinydd cymunedol, neu’n breswyliwr, mae gennych rôl i’w chwarae. Gofynnwch: beth alla i wneud i wneud fy nghymuned yn fwy cynhwysol? Sut alla i helpu i bontio’r rhaniadau ac adeiladu ymddiriedaeth?
Mae cymunedau mwy diogel yn dechrau gyda chysylltiadau cryfach. Dewch i wneud cydlyniant, nid yn unig yn nod, ond yn ffordd o fyw yng Nghymru.