Niwrowahaniaeth Cymru – Helpu i wella bywydau pobl niwrowahanol a’u teuluoedd yng Nghymru.
Mae swydd wag ar gyfer Pennaeth Gwasanaeth Niwroamrywiol Cymru (ND) i arwain a rheoli gwaith y Tîm ND Cenedlaethol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn CLlLC ond gan weithio ‘n agos gyda GIG, cynghorau a phartneriaid eraill. Bydd deiliad y swydd yn darparu arweinyddiaeth a chydlynu, cyngor rheoli a chefnogaeth i’r tîm wrth ymgymryd â’u rolau, gan symud ymlaen a gweithredu camau allweddol fel y nodwyd yn Rhaglen Waith y Tîm fel y cytunwyd gyda Llywodraeth Cymru. Arwain ar ddarnau sylweddol o waith a nodwyd drwy raglen Gwella ND Llywodraeth Cymru.
Mae’r rôl hefyd yn cynnwys cefnogi Arweinwyr y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS), Arweinwyr Awtistiaeth a hwyluso Cymuned Ymarfer ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio ym maes ND a rolau cysylltiedig ehangach. Fel rhan o’r rôl hon, bydd deiliad y swydd yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i barhau i reoli’r broses o bontio’r Tîm a’r maes polisi i integreiddio cyflyrau niwro-ddargyfeiriol eraill yn llawn yn eu gwaith, i nodi gwaith i’w wneud gan gynnwys canlyniadau i’w cyflawni a’r adnoddau angenrheidiol i fwrw ymlaen â’r gwaith hwnnw.
Mae’r swydd wag hon yn cau ddydd Sul 30 Mawrth 2025. I wneud cais neu am fwy o wybodaeth ewch i wefan CLlLC.