Polisi Preifatrwydd
Pwy ydym ni
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn defnyddio gwybodaeth bersonol i’n galluogi i gynnal gwasanaethau mewn perthynas â’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol. Mae’r gwasanaeth yn llais strategol sy’n hyrwyddo ac yn cysylltu pawb sy’n ymwneud â diogelwch cymunedol fel y gallant greu cymunedau mwy diogel – yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Rydyn ni’n cymryd preifatrwydd eich gwybodaeth o ddifrif ac mae’r polisi hwn yn esbonio sut rydyn ni’n casglu, defnyddio a chael gwared ar eich gwybodaeth a sut rydyn ni’n ei chadw’n ddiogel.
Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru – Cysylltwch â ni
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru,
Un Rhodfa’r Gamlas,
Heol Dumballs,
Caerdydd, CF10 5BF
Pa ddata sy’n cael ei gasglu a sut
Mae cymunedaumwydiogel.cymru yn casglu data yn y ffyrdd a ganlyn:
- Trwy ein ffurflen ‘Cysylltu â ni’
- Pan fyddwch chi’n creu cyfrif defnyddiwr (Aelodau’r Rhwydwaith yn unig)
Mae’r data personol a brosesir fel rhan o’r gwasanaethau hyn yn cynnwys:
- Enwau
- Sefydliad
- Cyfeiriadau
- Cyfeiriadau E-bost
- Manylion defnyddiwr ar-lein, gan gynnwys gwybodaeth a gedwir yng nghyfrifon y wefan
Darperir y wybodaeth hon i ni yn uniongyrchol gan unigolion.
Mae trydedd genhedlaeth cyfraith diogelu data’r DU yn disodli Deddf Diogelu Data 1998. Mae Deddf Diogelu Data 2018 yn derbyn y safonau a’r rhwymedigaethau a osodir gan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a, lle mae GDPR yn caniatáu, mae’n gwneud darpariaethau penodol sy’n berthnasol i’r DU.
Sut mae’ch gwybodaeth yn cael ei defnyddio
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth bersonol a ddarperir at ddibenion sy’n gyson â’r rheswm y cafodd ei darparu i CLlLC. Cedwir yr holl wybodaeth yn unol â pholisïau cadw data CLlLC.
Mae’r wybodaeth rydyn ni’n ei phrosesu yn cael ei phrosesu o dan yr Atodlen(ni) canlynol:
Amod Erthygl 6
Cydsyniad – Erthygl 6(1)(a)
Efallai y bydd adegau pan fydd yn ofynnol yn gyfreithiol i ni rannu gwybodaeth ag asiantaethau eraill yn y sector cyhoeddus. Bydd manylion pellach am hyn yn cael eu hamlinellu ym Mholisïau Diogelu Data CLlLC.
Os hoffech gael copi o’r wybodaeth yr ydym yn ei chadw ac yn ei rhannu amdanoch, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data CLlLC, e-bost dataprotection@wlga.gov.uk neu llenwch ffurflen gais Hawl Unigolyn.
I gyrchu Polisi Preifatrwydd llawn CLlLC cliciwch yma.
Sylwch y gallwn ddefnyddio’ch data am y rhesymau a ganlyn:
- Ymateb i’ch cais.
- Er mwyn ymateb i gais gan sefydliad, dim ond os ydych wedi rhoi caniatâd iddynt y darperir hwn.
DS: Ni fydd eich data yn cael ei rannu gyda darparwr trydydd parti.
Ble mae’ch data’n cael ei gadw?
- Mae ein canolfannau data o’r radd flaenaf wedi’u hardystio a’u gwarchod gan ISO27001 gan yr holl nodweddion diogelwch diweddaraf. Mae rhwydweithiau preifat a waliau tân yn amddiffyn eich gweinyddwyr, cymwysiadau a data, tra bod cipluniau, delweddau a chlonau yn gadael ichi brofi ac adfer peiriannau rhithwir yn ddiogel ar unrhyw adeg.
- Mae’r cronfeydd data hyn yn cael eu cynnal, a bydd eich data yn cael ei ddileu ar ôl cyfnod o 8 mlynedd.
- Mae gennym ardystiad ISO9001 ac ISO27001 i sicrhau bod ein proses yn ddiogel, yn gadarn ac yn darparu hyder a boddhad i gleientiaid.
Eich hawliau
O ran eich data sydd wedi’i storio, mae eich hawliau’n cynnwys y canlynol:
- Eich hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch gwybodaeth bersonol.
- Eich hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth sy’n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth rydych chi’n meddwl sy’n anghyflawn.
- Eich hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth mewn rhai amgylchiadau.
- Eich hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau.
Defnyddio cwcis ar y wefan
Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n cael eu rhoi ar eich cyfrifiadur gan wefannau rydych chi’n ymweld â nhw. Fe’u defnyddir yn helaeth er mwyn gwneud i wefannau weithio’n effeithlon, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchnogion y wefan.
Rydym yn defnyddio cwcis i helpu i gasglu gwybodaeth anhysbys ar sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio. Mae’r wybodaeth hon yn ein helpu i wella ein gwefan a darparu gwell gwasanaeth i’n hymwelwyr. Yn ogystal, mae’r swyddogaeth cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddiwn yn gosod cwcis.
Mae mwy o wybodaeth am gwcis ar gael yn Datganiad Cwcis.