Gwersi a Ddysgwyd
O ystyried y cyflwynwyd y sesiynau ar lein (drwy MS Teams), er bod y sesiynau trafod yn benodol wedi gweithio cystal ag y gallen nhw, byddai unrhyw sesiynau yn y dyfodol yn elwa o gael eu cyflwyno wyneb yn wyneb er mwyn osgoi materion technegol ac i wella ansawdd y drafodaeth grŵp.
Nododd sylwadau o’r ffurflenni gwerthuso nad yw gwaith ieuenctid, er ei fod yn cael ei barchu fel ymyrraeth gyda phobl ifanc, yn cael yr un lefel o gydnabyddiaeth â phroffesiynau eraill, fel gwaith cymdeithasol ac addysgu, yn enwedig mewn perthynas â’r rhaglen Prevent.
Nid yw rôl Gwaith Ieuenctid mewn meysydd cysylltiedig eraill, fel Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE), yn cael ei werthfawrogi cymaint chwaith. Er na chymerwyd y gwaith o ddifrif ar y pryd, cydnabuwyd mewn nifer o adroddiadau bod gwaith ieuenctid yn un o’r ychydig sectorau cyfrannol a gyflawnodd eu rôl yn rhagorol. Mae adborth tebyg yn dod i’r amlwg yn y rhaglen Llinellau Cyffuriau, lle mae rôl gweithwyr ieuenctid yn cael ei hystyried yn fwyfwy hanfodol o ran adnabod pobl ifanc mewn perygl o ddioddef camfanteisio, eu hatal rhag cymryd rhan mewn Llinellau Cyffuriau/diwylliant gangiau a’u cefnogi i ddod yn rhydd o’u gafael.
Un ffactor pwysig a gododd o’r sesiynau oedd bod y siaradwyr ar ran WECTU, yr Heddlu, y Seicolegydd oedd yn arbenigo mewn radicaliaeth ac Ymgynghorydd Prevent y Swyddfa Gartref (sydd newydd ymddeol) yn deall, yn cydnabod ac yn dathlu rôl werthfawr gwaith ieuenctid (ymyrraeth addysgol sy’n ymgysylltu â phobl ifanc drwy fagu perthynas a datblygu ymddiriedaeth ac sydd ar sail wirfoddol), a gafodd effaith gadarnhaol.
Gan i’r model lwyddo cystal yn ei nod o godi ymwybyddiaeth a darparu gwybodaeth am y rhaglen Prevent (gan ganolbwyntio ar yr elfen ddiogelu), mae’r cydweithwyr oedd yn rhan o’i ddarparu bellach yn gweithio gyda’r sector Dysgu Seiliedig ar Waith i gynnig cyfle tebyg i’r staff yno.