Neidio i'r prif gynnwys

Prosiect Celf Stryd Pen-y-bont ar Ogwr

<<Yn ôl i Astudiaethau Achos

Prosiect celf stryd ar y cyd yn dod â phobl ifanc lleol at ei gilydd ac yn trawsnewid maes parcio ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae maes parcio’r Neuadd Bowls ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn ganolbwynt i broblemau ieuenctid a cherbydau a llawer o gwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd amlasiantaeth i geisio datrys y broblem heb gosbi aelodau o’r cyhoedd oedd yn defnyddio’r maes parcio i fynd i gyfleusterau lleol gyda’r nos.

Cafodd amrywiaeth o welliannau gweledol eu gwneud yn y lleoliad, yn cynnwys prosiect celf stryd mawr i wneud yr ardal yn fwy lliwgar a deniadol ac i hyrwyddo teimlad o ddiogelwch. Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Tîm Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont Mwy Diogel, Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu a Darpariaethau Ieuenctid wedi cynnal nifer o weithdai i gynnwys pobl ifanc yn y broses, ynghyd ag arlunwyr Another Day Another Spray, THEW Creative ac Abys. Roedd hyn yn cynnwys unigolion oedd yn rhan o broses Camau Ymyrraeth ar gyfer Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac roeddent yn cael eu cefnogi gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Cafodd y rhai oedd wedi’u gweld yn loetran yno hefyd eu gwahodd i gymryd rhan.

Roedd cynnwys pobl ifanc yn allweddol ac er ei bod yn anodd ymgysylltu â rhai i ddechrau, fe wnaeth pob un setlo yn y gweithdy. Daeth gweithwyr ieuenctid yno i gefnogi’r bobl ifanc a’u cyfeirio at ddarpariaethau ieuenctid oedd ar gael yn barod. Rhannwyd negeseuon cryf yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod y gwaith, gan roi gwybod iddynt am y canlyniadau, a rhannwyd taflenni ar y strydoedd preswyl cyfagos hefyd i annog pobl i roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol a dweud sut roedd gwneud hynny.

Mae’r cyfuniad hwn o waith wedi arwain at newidiadau i sut mae’r lle’n cael ei ddefnyddio. Cafodd y celf newydd yma ei ddylunio’n bwrpasol ac mae wedi cuddio hen graffiti ac yn cynnwys dyluniadau sy’n gysylltiedig â Phen-y-bont ar Ogwr. Mae’r ardal wedi gweld gostyngiad yn y problemau gan bobl ifanc ac mae perchnogion cerbydau bellach yn mynd yno i dynnu lluniau o’u ceir o flaen y celf stryd yn hytrach nag achosi niwsans, gofid neu bryder. Mae adborth cadarnhaol hefyd wedi bod gan aelodau’r cyhoedd sydd bellach yn teimlo’n fwy diogel yn defnyddio’r maes parcio ar ei newydd wedd.

Mae natur gysgodol y maes parcio oedd yn ei wneud yn lle mor ddeniadol i ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd yn rhoi ei hun i gynnal gweithgareddau ieuenctid a gweithdai ffitrwydd i deuluoedd, sydd o fudd i iechyd corfforol a meddyliol pobl ac yn gwneud y mwyaf o’r lle deniadol hwn. Yn bwysicaf oll, mae adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi gostwng yn sylweddol yn yr ardal hon ers gwneud y gwaith uchod. Mae perthnasoedd rhwng y trigolion, Cynghorwyr, yr heddlu a’r bartneriaeth yn ehangach wedi gwella o ganlyniad i allu dangos effaith gadarnhaol.

Mae’r celf stryd wedi cael ei ehangu i Borthcawl, Parc Pandy a’r llwybrau dan y ffordd yn Bracla a Merthyr Mawr Road. Mae cynllun hefyd am fwy o gelf stryd y tu allan i Orsaf Fysiau Maesteg.

Adborth

“Mae’r celf stryd wir wedi gwneud gwahaniaeth ym maes parcio’r neuadd fowls a gobeithio y bydd hyn yn helpu trigolion i deimlo’n fwy cyfforddus wrth ddefnyddio’r cyfleuster.

 

“Mae hefyd yn braf bod llawer o drigolion ifanc wedi cael cyfle i gymryd rhan a hoffwn roi clod i’r arlunwyr stryd a phawb sydd wedi bod ynghlwm â’r prosiect.”

 

Y Cyng. Neelo Farr, Aelod Cabinet Adfywio

Gwobrau

Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr oedd yr enillydd yng nghategori Ymddygiad Gwrthgymdeithasol gwobrau Cymunedau Mwy Diogel Cymru 2023.