Ymchwil ac Ymarfer Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru
Mae Ymchwil ac Ymarfer yn elfen bwysig o Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru er mwyn rhannu arfer orau ar draws Cymru a thu hwnt. Mae ymchwil yn darparu’r sail dystiolaeth sy’n bwysig ar gyfer dangos beth sy’n gweithio mewn diogelwch cymunedol er mwyn galluogi arloesedd a gwelliannau ar draws Cymru.
Rydym yn ymgymryd â rhai gweithgareddau ein hunain, ond mae ein partneriaid ac eraill yr ydym yn gweithio â hwy yn gwneud rhagor o waith, gan gynnwys phrifysgolion a Chanolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru.
Ein Canfyddiadau Ni
Mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru wedi ymgymryd â sawl arolwg ers ei sefydlu ym mis Ionawr 2021. Mae’r adroddiadau a’r ffeithluniau a gynhyrchwyd o ganlyniad i’r arolygon i’w gweld isod.
- Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru: Asesiad Anghenion Hyfforddi (Tachwedd 2022)
Comisiynodd Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru ar Brifysgol Abertawe i gynnal Asesiad Anghenion Hyfforddi (TNA) ar gyfer gweithwyr proffesiynol diogelwch cymunedol ledled Cymru. Darllenwch yr adroddiad isod i gael gwybod am ganfyddiadau thematig y TNA i’w hystyried gan y Rhwydwaith a Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru, sy’n cynnwys argymhellion ar gyfer datblygu hyfforddiant neu hyfforddiant y dylid ei gomisiynu i ddiwallu’r anghenion.
I ddarllen yr adroddiad llawn cliciwch yma
I ddarllen y crynodeb gweithredol cliciwch yma
- Arolwg Cychwynnol Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru: Adroddiad sy’n cyfleu canlyniadau arolwg sylfaenol cyntaf y Rhwydwaith (Hydref 2021)
Ffurfiwyd Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru ym mis Ionawr 2021. Yn ystod y trafodaethau cynnar nodwyd y byddai angen gwneud arolwg cychwynnol. Mae’r arolwg cychwynnol hwn yn dilyn gwaith ar y gweithlu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roedd yr arolwg ei hun yn cynnwys cwestiynau penodol ar gyfer Rhwydwaith Dadansoddi Data, Arloesi a Gwella Cymru (WDAIIN), yn ogystal ag edrych ar gefndir y bartneriaeth a’r cymhlethdodau yn sgil cyrff cyhoeddus datganoledig a heb eu datganoli yn rhan o’r cyd-destun diogelwch cymunedol.
I ddarllen yr adroddiad cliciwch yma
- Deall Proffil Diogelwch Cymunedol yng Nghymru 2021: Arolwg gweithlu o Awdurdodau Lleol a Phlismona yng Nghymru (Ebrill & Gorffennaf 2021)
Arolwg Gweithlu Diogelwch Cymunedol Awdurdod Lleol Ebrill 2021. Canfyddiadau o 15 o ymatebion mewn perthynas ag 17 Ardal Awdurdod Lleol.
I ddarllen yr adroddiad cliciwch yma
Plismona mewn Diogelwch Cymunedol Gorffennaf 2021. Adroddiad yn dilyn gweithdy a mewnbwn ychwanegol gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Cymru.
I ddarllen yr adroddiad cliciwch yma
Adroddiad cryno ar adolygiad y gweithlu o lywodraeth leol a phlismona yng Nghymru.
I ddarllen yr adroddiad cryno cliciwch yma
- Arolwg Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2021: Adolygiad o effaith COVID-19 a’r hyn a ddisgwylir (Mehefin 2021)
Adolygiad o effaith y pandemig COVID-19 a’r hyn y mae Ymarferwyr ASB yng Nghymru yn ei ddisgwyl.
I weld y ffeithlun llawn cliciwch yma
Ymchwil Allanol
Bydd ymchwil yn cael ei restru o dan y pynciau gan brifysgolion Cymru a chyrff eraill sy’n ymgymryd â gwaith ymchwil.