Mae Kaarina Ruta, Uwch Swyddog Polisi Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Trafnidiaeth, ac Ian Bradfield, Llywodraeth Cymru, Prif Arweinydd Polisi ar gyfer Ffyrdd, Trafnidiaeth a Chysylltedd Digidol, yn ymuno â ni i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa diogelwch ffyrdd bresennol yng Nghymru. Mae’r sesiwn yn ymdrin â datblygiadau deddfwriaethol diweddar a chynnydd ar draws ffrydiau gwaith allweddol.
Dros y misoedd diwethaf bu gweithgarwch sylweddol yn y maes polisi hwn, gan gynnwys cyhoeddi Strategaeth Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth y DU, ymgynghoriadau lluosog Llywodraeth y DU a rhagolwg i Gynllun Partneriaeth Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru sydd ar ddod.