Neidio i'r prif gynnwys

Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel

Am y gwobrau

Ledled Cymru, mae Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a phartneriaid eraill yn gweithio’n unigol a gyda’i gilydd fel bod pawb yng Nghymru yn teimlo’n ddiogel ac yn rhydd rhag ofn camfanteisio, trosedd ac anhrefn. Mae’r gwaith hwn yn aml yn cael ei wneud yn dawel a chan nifer fach o bobl sy’n frwd dros wneud gwahaniaeth i unigolion, teuluoedd a chymunedau.

Mae Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel yn cael ei chynnal i gydnabod cyfraniadau eithriadol i ddiogelwch cymunedol mewn cyd-destun aml-asiantaeth. Bydd digwyddiad y prynhawn yn un i ddathlu, ac yn cydnabod y rhai sydd wedi cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl dros y flwyddyn.

Yn ogystal â chydnabod ymdrechion unigolion a phrosiectau a phartneriaethau cydweithredol, bydd hefyd yn rhoi sylw i ddyfarnwyr, cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol diogelwch cymunedol ehangach, yn yr ystyr bod eu gwaith caled yn cael ei werthfawrogi ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion a chymunedau ledled Cymru.

Y Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel cyntaf yng Ngwesty’r Village, Abertawe ddydd Iau, 30 Tachwedd 2023, gyda Lynn Bowles yn cyflwyno.

Gweler Enillwyr 2023

2024 Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel

Ym mis Tachwedd fe fyddwn yn dathlu straeon o lwyddiant yn ymwneud â diogelwch cymunedol gyda’r ail Wobrau Cymunedau Mwy Diogel. Bydd y seremoni yn cael ei chynnal ddydd Iau 28 Tachwedd, yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam. Eleni rydym yn falch iawn o groesawu newyddiadurwr a chyflwynydd y BBC John-Paul Davies i gyflwyno’r gwobrau ochr yn ochr â gwesteion a phwysigion eraill.

Mae ceisiadau nawr wedi cau. Os ydych wedi cyflwyno enwebiad bydd y tîm yn cysylltu â chi yn fuan i roi gwybod i chi os ydych wedi bod yn llwyddiannus.

Am y seremoni wobrwyo

Categorïau’r gwobrau

Gall unigolion enwebu eu hunain ar gyfer y gwobrau neu gael eu henwebu gan drydydd parti. Croesawir enwebiadau ar gyfer unrhyw unigolyn, sefydliad neu brosiect yng Nghymru p’un ai a ydynt yn cael eu talu neu ddim yn cael eu talu o’r sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector – elusennau, grwpiau gwirfoddol a grwpiau cymunedol.

Mae yna bedwar categori ar ddeg o wobrwyon yn y meysydd canlynol:

  • Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
  • Atal Troseddu
  • Ymyrraeth Gynnar
  • Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Chydlyniant
  • Llywodraethu
  • Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio
  • Troseddu a Chyfiawnder
  • Troseddu Cyfundrefnol
  • Partneriaethau
  • Diogelwch y Cyhoedd
  • Diogelu
  • Trais Difrifol
  • Terfysgaeth ac Eithafiaeth
  • Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

 

Beirniadu

Bydd y ceisiadau yn cael eu hadolygu gan banel dyfarnu a fydd yn penderfynu ar enillwyr y categorïau a’r enillwyr cyffredinol. Caiff aelodau’r panel eu dewis i osgoi cynifer o achosion o wrthdaro buddiannau â phosibl, tra’n dod â’r rhai hynny sydd â gwybodaeth arbenigol am ddiogelwch cymunedol yn y llywodraeth, y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector ynghyd. Mae’r panel yn cynnwys cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yr Heddlu yng Nghymru a Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru.

Os bydd unrhyw gwestiynau neu os bydd y panel angen unrhyw eglurhad er mwyn gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth fe fydd Tîm Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn cysylltu â’r enwebydd ac os oes angen yr enwebai. Bydd penderfyniad y panel yn derfynol.

Meini prawf sgorio

Bydd pob cais yn cael ei sgorio ar:

Atal

  • A yw’r fenter yn atal rhywbeth rhag digwydd?
  • A yw’n atal mater rhag gwaethygu neu ailddigwydd?

Arloesedd neu Welliant

  • A yw’r ymagwedd yn arloesol?
  • A yw’n gwella ar brofiad blaenorol?

Effaith

  • Pa effaith y mae’r fenter wedi’i chael ar unigolion neu gymunedau?
  • Sut mae wedi gwella ansawdd bywyd neu ddiogelwch cymunedol?

Bydd y beirniaid yn sgorio pob cais o 1 i 10, ym mhob un o’r meysydd hyn.  Bydd y sgôr cyffredinol uchaf yn y categori yn cael ei ddyfarnu fel yr enillydd.  Bydd yr enillydd cyffredinol yn cael ei benderfynu gan y sgorau uchaf a’r fenter neu’r prosiect y mae’r beirniaid yn teimlo sy’n arddangos rhagoriaeth orau.

Y seremoni wobrwyo

Bydd y seremoni wobrwyo eleni yn cael ei chynnal ddydd Iau 28 Tachwedd yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam. Rydym yn falch iawn o groesawu John-Paul Davies i gynnal y seremoni eleni ac rydym yn edrych ymlaen at ddathlu llwyddiant ym maes diogelwch cymunedol.

Sut i archebu

Bydd manylion ynglŷn â sut i archebu yn cael eu cyhoeddi yn fuan.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn y prynhawn a’r cod gwisg fydd gwisg fusnes.

Ynglŷn â’n gwesteiwr

Bu John-Paul Davies yn gweithio i ITV Wales am ddwy flynedd cyn ymuno a Sky ar ddechrau 2008. Cyn hynny, treuliodd bedair blynedd gyda’r Heddlu ac ef oedd y Swyddog Heddlu cyntaf o dde Cymru ers ugain mlynedd i ennill lle ar Gynllun Carlam y Swyddfa Gartref ar gyfer Graddedigion. Sylweddolodd yn fuan ei fod yn delio â chanlyniadau phroblemau yn hytrach na’u hachosion, ac arweiniodd hyn at ddilyn dyhead oedd ganddo ers peth amser i fod yn newyddiadurwr, gan ennill Diploma mewn Newyddiaduraeth Darlledu o Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd yn 2005.

Yn ystod ei gyfnod gyda Sky News a Sky Sports yn Llundain, bu John yn cyflwyno Cwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair, Rygbi’r Undeb Rhyngwladol a Phêl-droed Rhyngwladol. Mae wedi bod yn angorwr wrth i rai o straeon newyddion mwyaf y byd dorri dros y degawd diwethaf.

Mae gan John bryder dwfn am bobl ddifreintiedig ac mae’n ymrwymedig i nifer o elusennau gartref a thramor. Mae ganddo angerdd dros godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a’r angen i ofalu am chwaraewyr yn y gamp.

Mae John wrth ei fodd yn teithio ac mae ganddo ddiddordeb mewn hanes ar ôl astudio’r pwnc yn Aberystwyth lle bu’n addysgu hanes ac Addysg Gorfforol hefyd mewn ysgol uwchradd. Mae ei brofiad gyda’r Heddlu ac ym maes Newyddiaduraeth wedi’i alluogi i weld sut mae gorffennol unigolyn yn dylanwadu ar eu presennol a’u dyfodol a’u llywio.

Nawdd

Os hoffech chi ymwneud â’r gwobrau fel noddwr, gweld eich logo ochr yn ochr â Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru a chael stondin yn y seremoni wobrwyo cysylltwch â ni.