Mae Rhwydwaith Cymunedau Diogelach Cymru wedi cyhoeddi dyddiadau Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Diogelach eleni. Eleni bydd yr wythnos ymwybyddiaeth yn cael ei chynnal rhwng 16 ac 20 Medi a bydd yn codi ymwybyddiaeth o Ddiogelwch Cymunedol gyda ffocws ar ‘cydweithio’.
Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i gyflawni mentrau diogelwch cymunedol ac mae Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Diogelach eleni yn gyfle i godi proffil gwaith diogelwch cymunedol ac amlygu rhywfaint o’r gwaith arloesol sy’n digwydd.
Dechreuwyd yr Wythnos Ymwybyddiaeth gyntaf gan Rwydwaith Cymunedau Diogelach Cymru ym mis Medi 2023, a oedd yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau ‘cinio a dysgu’ a chyfweliad gyda’r Prif Weinidog ar y pryd Mark Drakeford. Bydd amserlen digwyddiadau mis Medi eleni yn cael ei chyhoeddi dros yr wythnosau nesaf a bydd pecyn cymorth o negeseuon y gall partneriaid ei ddefnyddio i hyrwyddo’r wythnos ar eu sianeli eu hunain hefyd.
Cyhoeddir rhagor o fanylion trwy dudalennau X (Twitter gynt) y Rhwydwaith a thudalennau LinkedIn a thudalen we bwrpasol.
#SaferCommunitiesAwarenessWeek #SCAW24 #CommunitySafety