Yr wythnos ddiwethaf, roedd hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Mwy Diogel 2024 a chymerodd y Rhwydwaith ran mewn nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau. Gallwch ddarllen mwy am weithgareddau’r Rhwydwaith yma. Cofiwch roi Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Mwy Diogel 2025 yn eich dyddiaduron, fe’i cynhelir rhwng 15 – 19 Medi.
Pecyn Hyfforddi Cymunedau Mwy Diogel
Mae’r Rhwydwaith yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe fel rhan o bartneriaeth barhaus i ddatblygu rhaglen hyfforddi Cymunedau Mwy Diogel. Hoffem glywed eich barn, felly llenwch ein harolwg.
Rydym hefyd yn cynnal Ymarfer Mapio Diogelwch Cymunedol i sicrhau ein bod yn gallu cyfeirio, defnyddio a deall y bylchau’n well. Gallwch ein helpu drwy rannu dolenni at hyfforddiant neu becynnau dysgu presennol sy’n berthnasol i Ddiogelwch Cymunedol, boed y rheiny ar gyfer defnydd mewnol neu gyhoeddus. Neu gallwch rannu enw a manylion cyswllt yr unigolyn perthnasol yn eich sefydliad y gallwn gael sgwrs â nhw am yr hyfforddiant. Cysylltwch â ni os gallwch helpu.
Felly beth sydd nesaf?
Mae diogelwch cymunedol yn symud yn barhaus, felly dyma grynodeb o rai o’r pethau sydd i ddod dros y misoedd nesaf.
Hydref
- 1 Hydref – Bydd y canllawiau ar yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SUSR) yn dod i rym.
- Bydd y ceisiadau ar gyfer y Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel yn cau ddydd Gwener 11 Hydref am 5pm. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cyflwyno eich ceisiadau cyn hynny. Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth.
- Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Cynhadledd Gwrth-gaethwasiaeth Cymru eleni, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Mae hyfforddiant Gwrth-gaethwasiaeth yn cael ei ddatblygu hefyd, a byddwn yn ei rannu â chi pan fydd yn cael ei lansio.
- Bydd Rhwydwaith Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Cymru Gyfan yn cynnal ei chynhadledd flynyddol yn Llandrindod ar 23 Hydref. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynd, cysylltwch â ni.
Tachwedd
- Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Resolve rhwng 18-24 Tachwedd a’r thema gyffredinol fydd #GwneudCymunedauynFwyDiogel.
- Cynhelir y Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel ar 28 Tachwedd yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam. Rydym yn falch iawn o groesawu’r cyflwynydd teledu John-Paul Davies i gyflwyno’r gwobrau eleni.
Fel arfer, byddwn hefyd yn cyflwyno ein newyddlen Briff, sy’n cynnwys gwybodaeth am ddiogelwch cymunedol o bob cwr o Gymru a’r DU. Os hoffech gael eich ychwanegu at y rhestr bostio, neu os oes gennych unrhyw beth yr hoffech i ni ei gynnwys, anfonwch e-bost atom.
Rydym yma bob amser i helpu i wneud bywyd yn haws i ymarferwyr ac rydym yn croesawu adborth. Dywedwch wrthym os oes unrhyw beth y gallem ei wneud fyddai’n ddefnyddiol i chi.