Neidio i'r prif gynnwys

Ymgysylltu ag ysgolion i fynd i’r afael â thanau bwriadol

<<Yn ôl i Astudiaethau Achos

Ganol mis Mai cysylltodd rheolwr Parciau Cyngor Caerdydd â Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) Laura Moore ynglŷn â nifer o danau bach bwriadol yn Nhrelái. Penderfynodd PCSO Moore gynnal ymgyrch posteri i ennyn diddordeb y plant lleol. Roedd hwn wedi’i anelu at blant ym mlynyddoedd pump a chwech gan fod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi nodi bod y grŵp oedran hwn yn aml ar y safle pan fyddai’r gwasanaeth tân yn gorfod mynd i ddiffodd y tanau.

Yn rhan o’r briff, roedd gofyn i bob plentyn ddylunio poster i dynnu sylw at beryglon cynnau tanau’n fwriadol. Yna aeth PCSO Moore â’r posteri i orsaf dân Trelái lle dewiswyd 11 o enillwyr.

Ar 4 Gorffennaf cafodd yr 11 o blant a rhai athrawon eu gwahodd i orsaf dân Trelái gan reolwr yr orsaf am fore i roi profiad iddyn nhw o swydd diffoddwr tân.

O ganlyniad i hyn, mae’r gwasanaeth tân wedi nodi gostyngiad yn nifer y tanau bwriadol a rhoddwyd sawl enw i’r tîm o unigolion sydd wedi bod yn rhan o gynnau tanau yn Nhrelái. Mae atgyfeiriadau wedi’u gwneud i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru a bydd y plant hyn yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y cynllun Ymyrraeth i Unigolion sy’n Cynnau Tanau.

 

Ers hynny mae PCSO Moore wedi cael cyllid gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd i droi’r posteri’n arwyddion metel A3 y dylai gael eu gosod yn y parciau tua diwedd mis Gorffennaf.

Adborth

Dywedodd Laura:

 

“Roedd yr ymateb yn anhygoel, mae un o’r bechgyn yn aml mewn helynt yn yr ysgol ac yn anaml iawn y bydd yn cael ei ganmol. Pan gafodd wybod ei fod wedi ennill, roedd yn emosiynol iawn ac yn llawn cynnwrf. Nid oedd yn gwybod sut i ddelio â chanmoliaeth.

 

“Gwnaeth ef fy nghofleidio i ac yr oedd Shauna o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru a minnau’n emosiynol iawn wrth weld ymateb mor wych.

 

“Ffoadur o Affganistan oedd un o’r enillwyr eraill a dim ond ers ychydig fisoedd mae hi wedi bod yn y wlad. Roedd hi wrth ei bodd.”