Deall nodweddion diamddiffyn a mynd i’r afael â risgiau
Dydd Mawrth 10 Mehefin byddwn yn croesawu Niwrowahaniaeth Cymru i drafod y cysylltiadau rhwng Niwrowahaniaeth ac eithafiaeth. Bydd y seminar yn codi ymwybyddiaeth o’r nodweddion diamddiffyn unigryw y gall unigolion niwrowahanol eu hwynebu mewn perthynas â radicaleiddio a thrafod strategaethau effeithiol i reoli a lliniaru’r risgiau hyn.
Byddwn yn trafod:
Trosolwg o niwrowahaniaeth
Nodweddion diamddiffyn unigolion niwroamrywiol a’u taith tuag at eithafiaeth
Asesu risgiau a sut i’w rheoli, gan gynnwys pwysigrwydd ymyrraeth gynnar
Strategaethau ac arferion gorau
Bydd y sesiwn yn galluogi’r rhai sy’n mynychu i dderbyn y wybodaeth hanfodol i gynorthwyo i ddiogelu unigolion diamddiffyn a chreu cymunedau mwy diogel. Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniad ac yna sesiwn Holi ac Ateb, gan roi cyfle i bawb gael trafodaeth fanwl a chyngor ymarferol.