Neidio i'r prif gynnwys

Datganiad: Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn gadael X

Ar ôl cryn ystyriaeth, mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru wedi penderfynu gadael X (a elwid gynt yn Twitter).

Nid yw’r penderfyniad hwn wedi’i wneud ar chwarae bach. Dros amser, rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn ymgysylltiad ystyrlon ar y llwyfan, ochr yn ochr ag amgylchedd mwy gwenwynig a mwy o wybodaeth anghywir yn cael ei lledaenu.  Nid yw’r newidiadau hyn bellach yn cyd-fynd â’n gwerthoedd o gydweithio a chael ein harwain gan dystiolaeth, ac nid ydynt yn hyrwyddo lles cymunedol.

Bydd ein cyfrifon yn aros ar agor fel bod modd i ni ymateb i negeseuon uniongyrchol, ond ni fyddwch yn gweld unrhyw gynnwys newydd gennym.  Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi ymarferwyr diogelwch cymunedol ar draws Cymru a byddwn yn parhau i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf, adnoddau a chyfleoedd trwy ein gwefan a’n sianelau eraill.

Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi ni ar X.

Cadw mewn Cysylltiad:

Gwefan: cymunedaumwydiogel.cymru

LinkedIn: linkedin.com/safercommunities

Facebook: facebook.com/WalesSaferCommunities