Neidio i'r prif gynnwys

Cefnogaeth i Weithwyr Ieuenctid

ThMae’r Rhwydwaith o Unedau Gwaith Ieuenctid Rhanbarthol, UK Youth a National Youth Agency yn creu gofod a rennir ar gyfer gweithwyr ieuenctid a gweithwyr proffesiynol perthynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc. Maent yn cynnal 3 sesiwn dros yr wythnos a hanner nesaf i alluogi gweithwyr proffesiynol i gysylltu, myfyrio a darparu cefnogaeth yn dilyn aflonyddwch, gwahaniaethu a thrais diweddar o fewn ein cymunedau.

Mae’r sesiynau hyn yn cael eu cynnal ar:

  • Dydd Iau 8 Awst 11am-12pm
  • Dydd Llun 12 Awst 5-6pm
  • Dydd Iau 15 Awst 3-4pm

Cliciwch yma i gofrestru i fynychu unrhyw un o’r sesiynau hyn.

Mae UK Youth hefyd wedi creu adnoddau ar gyfer sefydliadau sy’n wynebu pobl ifanc gyda ffocws ar wybodaeth anghywir, mynd i’r afael â chasineb, a chyfeirio at gyngor a chymorth ar weithdrefnau trawma, diogelu a chloi i lawr. Cliciwch yma i gael mynediad at yr adnoddau.