Mae datganiadau o ddiddordeb ar agor i Gydlynydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru (ysgrifenyddiaeth ac arweinydd llywodraethu).
Mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru yn dwyn ynghyd uwch arweinwyr o bob rhan o’r System Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru. Mae’r Bwrdd yn mabwysiadu dull cydweithredol i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r system yng nghyd-destun y setliad datganoli yng Nghymru. Mae ganddo ffocws penodol ar leihau effaith troseddau ar bobl Cymru drwy leihau troseddau a darparu canlyniadau gwell i ddioddefwyr.
Bydd y cydlynydd yn rheoli Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, gan ddarparu swyddogaeth ysgrifenyddiaeth o ansawdd uchel, amserol ac effeithlon gan gynnwys cynhyrchu agendâu, cofnodion a sicrhau ansawdd papurau cyfarfodydd.
Byddant yn gweithio gyda’r cadeirydd a’r aelodau i flaenoriaethu a chynllunio gwaith y bwrdd mewn cyfarfodydd a rhwng cyfarfodydd yn unol â chyfeiriad strategol y Bwrdd, gan sicrhau bod trafodaethau’n amserol, yn briodol ac yn canolbwyntio a bod penderfyniadau yn galluogi’r Bwrdd i gyflawni ei amcanion a’i gyfrifoldebau gan ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol.
Byddant yn cefnogi’r berthynas rhwng Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru a’r Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol sy’n hyrwyddo a datblygu blaenoriaethau’r Bwrdd ar lefel leol yn ogystal â rhoi sylw i waith a pherthynas y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cenedlaethol (Cymru a Lloegr).
Byddant yn cefnogi’r Cadeirydd yn uniongyrchol i gyflawni blaenoriaethau’r Bwrdd, gan sicrhau eu bod yn cael eu hysbysu am faterion perthnasol lle bo angen, eu bod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau ar y lefel briodol a bod ganddynt ddigon o wybodaeth a chyngor i weithredu’n effeithiol.
Byddant yn cynnal perthynas waith effeithiol ag Aelodau’r Bwrdd, y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cenedlaethol, y Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol a strwythurau llywodraethu eraill yng Nghymru yn ogystal â rhanddeiliaid allanol.
Mae’r rôl ar gael ar fenthyciad blwyddyn neu secondiad i sicrhau cyflawniad llwyddiannus gyda chyfle i ymestyn os oes angen. Os oes gennych ddiddordeb, cwblhewch y ffurflen gan fanylu mewn dim mwy na 1000 o eiriau pam mae gennych ddiddordeb ac enghreifftiau o sut rydych chi wedi dangos y proffiliau a’r ymddygiadau llwyddiant angenrheidiol yn y disgrifiad swydd.
Dylid anfon ceisiadau at Louise Lawrence, Cyfiawnder yng Nghymru erbyn a dylid eu derbyn erbyn dydd Llun 6 Hydref 2025 fan bellaf.