Neidio i'r prif gynnwys

Swydd wag: Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cael ei adnabod fel un o’r heddluoedd gwledig mwyaf yng Nghymru a Lloegr, ac mae ganddo enw da am ei ffocws ar y gymuned, gyda’i fodel Plismona Bro ac Atal wrth galon cyflenwi gwasanaethau. Mae’r amrywiaeth a’r ddaearyddiaeth eang yn cyflwyno heriau plismona unigryw a chymhleth sydd angen arweinyddiaeth amlwg ysbrydoledig a dynamig.

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu’n gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr neilltuol â dull arwain dilys, sy’n arddangos y lefel uchaf o onestrwydd a meddwl strategol arloesol. Mae angen i Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys fod yn unigolyn dynamig gyda’r ymrwymiad i reoli, ysgogi ac arloesi yn gyfartal.

yddwch chi’n llysgennad dros blismona yng Nghymru, gyda’r gallu i ddatblygu a chryfhau partneriaethau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes. Byddwch chi’n ymgysylltu’n amlwg â’r gweithlu, partneriaid a chymunedau lleol er mwyn sicrhau bod yr Heddlu’n addas ar gyfer y diben ac yn cyflenwi canlyniadau cadarnhaol.

Darganfyddwch fwy am y rôl a sut i wneud cais drwy ymweld  â gwefan Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.

Am ragor o fanylion, cysylltwch gyda Carys Morgan, Prif Weithredwr a Swyddog Monitro: 01267 226 440 / carys.morgans@dyfed-powys.police.uk