Neidio i'r prif gynnwys

Swyddi Gwag: Uwch-Swyddog Polisi Atal Trais

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn chwilio am Uwch-swyddog Polisi i helpu yr Uned Atal Trais i ymgorffori dull iechyd cyhoeddus system gyfan er mwyn atal trais ledled De Cymru. Mae hwn yn gyfle cyffrous i helpu i lywio polisi, dylanwadu ar ymarfer, ac ysgogi newid ystyrlon er mwyn lleihau achosion o drais – yn enwedig y rhai sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc.

Bydd deiliad y swydd yn helpu i gyflawni Cynllun Darparu Uned Atal Trais De Cymru a Chynllun yr Heddlu, Troseddau a Chyfiawnder De Cymru ar gyfer 2025–2029, gan drosi blaenoriaethau strategol yn gamau gweithredu seiliedig ar dystiolaeth. Gan weithio ar bortffolios amrywiol fel atal trais, cyfiawnder troseddol, ymyrraeth gynnar, bregusrwydd, a diogelu, bydd y rôl yn sicrhau bod y polisi yn seiliedig ar brofiadau bywyd y rhai y mae niwed wedi effeithio arnynt fwyaf.

Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i ddylanwadu ar y ffordd y mae De Cymru yn ymateb i droseddau ac achosion o gamfanteisio difrifol – gan sicrhau bod amser, arian ac adnoddau yn cael eu defnyddio i ganolbwyntio ar y pethau sy’n atal niwed cyn iddo ddigwydd.

Lleolir y swydd yn Ne Cymru, ac mae trefniadau gweithio hyblyg ar waith.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Daniel Jones: daniel.jones10@south-wales.police.uk

I wneud cais, cyflwynwch CV cynhwysfawr, llythyr eglurhaol manwl a Ffurfulen Manylion Personal a Gwybodaeth Fonitro os gwelch yn dda i hrcommissioner@south-wales.police.uk gan nodi sut yr rydych yn bodloni gofynion y rôl hon erbyn 12YP Dydd Gwener 30 Mai. Sicrhewch nad yw eich llythyr eglurhaol ategol yn hwy na dwy ochr A4.

Darganfyddwch fwy o wybodaeth.