Mae Deddf Terfysgaeth 2000 yn diffinio Terfysgaeth a throseddau cysylltiedig, ac mae’n rhoi pwerau i’r heddlu arestio a chadw terfysgwyr dan amheuaeth yn y ddalfa, stopio a chwilio cerbydau a cherddwyr, a gosod cyfyngiadau parcio. Mae’n rhoi pwerau i ymchwilio i derfysgaeth drwy chwilio eiddo a phwerau cyffredinol i’r heddlu, swyddogion y tollau a mewnfudo, yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth.
Mae Deddf Gwrthderfysgaeth a Dedfrydu 2021 yn ehangu’r troseddau y gellir eu hystyried yn droseddau sy’n gysylltiedig â therfysgaeth, ac mae’n cynyddu dedfrydau, rhoi isafswm cyfnod o 12 mis ar drwydded, ac mae’n golygu bod rhaid i droseddwyr sy’n oedolion gymryd profion polygraffau. Rhaid i droseddwyr gydymffurfio â’r hysbysiad o ofynion Cofrestr Troseddwyr Terfysgol ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau. Mae’r Ddeddf yn atgyfnerthu Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth ac mae’n cefnogi’r defnydd o Orchmynion Atal Troseddu Difrifol mewn achosion o derfysgaeth.
Mae Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 a ddiweddarwyd gan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelu Ffiniau 2019, yn amlinellu’r dyletswyddau i atal pobl ddiamddiffyn rhag cael eu denu at derfysgaeth. Mae gweithgareddau atal mewn ardaloedd lleol yn dibynnu ar gydweithrediad llawer o sefydliadau er mwyn iddyn nhw fod yn effeithiol. Mae Pennod 1 Rhan 5 Deddf 2015 yn ategu’r cydweithrediad hwn gyda dyletswydd ar awdurdodau penodol (a restrir yn Atodlen 6 Deddf 2015), yn cynnwys awdurdodau lleol, yr heddlu, carchardai a darparwyr gwasanaethau prawf, a darparwyr addysg ac iechyd, i dalu sylw trylwyr a diwyd at yr angen i atal pobl rhag cael eu denu at derfysgaeth, pan fyddan nhw’n cyflawni eu swyddogaethau. Mae’r Ddyletswydd i Atal wedi ei chynnwys yn benodol yn Adran 26 Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015.
Mae Pennod 2 Rhan 5 Deddf 2015 yn ategu’r Trefniadau sianelu. Yn benodol, mae adran 36 yn galw ar awdurdodau lleol i sefydlu panel (a elwir yn “banel Sianelu”) i drafod a, lle bo hynny’n briodol, penderfynu pa gefnogaeth a roddir i bobl sydd wedi eu nodi gan yr heddlu fel unigolion sydd mewn perygl o gael eu denu at derfysgaeth. Rhaid i’r panel benderfynu pa gefnogaeth a roddir ac o dan ba amgylchiadau. Mae is-adrannau (3) a (4) yn diwygio adran 36 er mwyn galluogi awdurdod lleol, yn ogystal â’r heddlu, i gyfeirio unigolyn maen nhw’n ei gredu sy’n agored i gael ei ddenu at derfysgaeth at banel Sianelu. Mae Adran 38 yn gofyn i bartneriaid panel (hynny yw, y cyrff a restrir yn Atodlen 7 Deddf 2015) i gydweithredu gyda’r panel er mwyn ei alluogi i lunio penderfyniadau ar sail gwybodaeth a chyflawni ei swyddogaethau. Mae dyletswydd gysylltiedig i gydweithredu gyda’r heddlu, yn benodol, mewn perthynas â’u swyddogaeth i benderfynu a ddylid cyfeirio unigolyn at banel er mwyn cynnal asesiad neu beidio. Mae is-adrannau (6) a (7) yn diwygio adran 38 fel bod y ddyletswydd ar y partneriaid mewn panel i gydweithredu gyda’r heddlu wrth gyflawni eu swyddogaethau dan adran 36 yn ymestyn i ddyletswydd i gydweithredu gydag awdurdod lleol sy’n cyflawni swyddogaethau o’r fath. Rhaid i bartneriaid mewn panel roi sylw i ganllawiau statudol a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn amlinellu’r ddyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus, sy’n gorfod gosod amcanion llesiant er mwyn cwrdd â nodau llesiant – un o’r rhain yw Cymru â chymunedau cydlynus. Bydd y nod hwn yn cefnogi cymunedau deniadol, hyfyw, diogel sydd wedi eu cydgysylltu’n dda. Mae adeiladu cymunedau mwy cydlynus hefyd yn rhan allweddol o Strategaeth Gwrtheithafiaeth y DU.
Mae’r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl, a mesurau anneddfwriaethol sy’n gysylltiedig â hi, yn darparu un fframwaith ar gyfer amddiffyniad sifil yn y DU. Mae’r Ddeddf wedi ei rhannu’n 2 ran: trefniadau lleol ar gyfer amddiffyn sifil (Rhan 1); a phwerau argyfwng (Rhan 2). Mae Fforwm Cymru Gydnerth a fforymau lleol yn dod â phartneriaid ynghyd er mwyn helpu i gyflawni’r dyletswyddau hyn yng Nghymru.
Cynhelir ymgynghoriad hefyd ar y Ddyletswydd i Amddiffyn newydd.