Neidio i'r prif gynnwys

Swydd Wag: Cydlynydd Llinellau Cyffuriau

Mae Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian yn recriwtio ar gyfer Cydlynydd Llinellau Cyffuriau Staff yr Heddlu ar hyn o bryd.

Bydd y rôl hon yn gweithio’n agos gyda’r Ganolfan Genedlaethol ar Gydlynu Ymdrechion i Daclo Llinellau Cyffuriau, y Swyddfa Gartref ac Arweinwyr Llinellau Cyffuriau Llywodraeth Cymru ymhlith asiantaethau partner eraill.  Bydd deiliad y swydd yn sicrhau y caiff unrhyw gysylltiadau a chyfleoedd a nodir eu rhannu â’r heddluoedd a’r asiantaethau partner perthnasol er mwyn iddynt ystyried y camau cadarnhaol.

Fel rhan o’r rôl hon, bydd yn ofynnol i’r unigolyn roi Cyngor Tactegol i swyddogion ymchwilio o bob rhan o’r rhanbarth. Fel rhan o strwythur y Ganolfan Genedlaethol ar Gydlynu Ymdrechion i Daclo Llinellau Cyffuriau, bydd rôl y cydlynydd yn cynnwys gweithio gydag Arweinwyr Llinellau Cyffuriau yr Heddlu, Cydlynwyr Rhanbarthol a phartneriaid er mwyn cydlynu a gwella ymateb gorfodi’r gyfraith i fygythiad Llinellau Cyffuriau.

Diben y rôl yw cydlynu a gwella ymateb gorfodi’r gyfraith i fygythiad Llinellau Cyffuriau drwy gyflawni mentrau Canlyn, Atal, Diogelu a Pharatoi. Mae disgwyl i’r Cydlynydd wella’r amcanion hyn drwy nodi, gweld, a goruchwylio ceisiadau a ffurflenni am gyllid ar gyfer Heddluoedd Tarian gan y Swyddfa Gartref a ffynonellau eraill er mwyn cyflawni’r nod hwn.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i dudalen we Swyddi’r Heddlu Cymru.