Pan geir partneriaeth dda fe geir tîm, enaid a rennir. Os ydych chi mewn partneriaeth yna rydych chi mewn cytundeb, felly pan nad ydynt gyda chi rydych chi’n dal yn gysylltiedig ac yn gweithio tuag at nod cyffredin.
Cyd-enillwyr: ‘On-Track’ yng Nghaerdydd a Rhaglen Gymunedol Môn Actif ar Ynys Môn
Cyd-enillwyr: ‘On-Track’ yng Nghaerdydd
Mae On-Track yn rhoi’r sgiliau sydd ar droseddwyr eu hangen i ddechrau gweithio am dâl yn y diwydiant rheilffordd, ac i gadw eu bywyd a’u dyfodol ar y trywydd cywir. Cynhelir cwrs tri mis i unigolion a nodir drwy’r tîm Rheoli Troseddwyr yn Heddlu De Cymru, ac mae’r Gwasanaeth Prawf hefyd yn enwebu unigolion os credir y gellir osgoi troseddu pellach drwy’r dull yma. Mae’r partneriaid yn cynnwys Heddlu De Cymru, Cyngor Caerdydd, y Gwasanaeth Prawf, Adran Gwaith a Phensiynau, Network Rail, Vital Rail, Ganymeade Solutions, Absolute Training and Assessing a Dyfodol.
Cyd-enillwyr: Rhaglen Gymunedol Môn Actif
Mae’r partneriaid yn cynnwys Cyngor Sir Ynys Môn, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaethau Ieuenctid, Gemau Stryd, Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a’r RNLI (Diogelwch Dŵr).
Mae Môn Actif yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i blant, pobl ifanc ac oedolion o bob oed a gallu mewn amrywiaeth o leoliadau, yn cynnwys ysgolion, colegau, clybiau, canolfannau cymunedol a chanolfannau hamdden, a’r prif nod yw creu Ynys Môn iachach, hapusach a mwy actif. Drwy gydweithio a gweithio gyda phartneriaid allweddol mae’r effaith ar gydlyniant cymunedol, diogelwch y gymuned ac o ran creu mwy o gyfleoedd sy’n helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gwbl amlwg ar hyd a lled yr ynys. Mae’r gweithgareddau wedi cynnwys beicio mynydd, syrffio a phadlfyrddio, sesiynau hunanamddiffyniad i ferched a genethod, pêl-droed a phêl fasged i enwi ond rhai, yn ogystal â sesiynau diogelwch dŵr mewn sefydliadau addysg. Mae’r bobl ifanc yn dal i ddod, wythnos ar ôl wythnos.
Cymeradwyaeth Uchel: Caban Nadolig Abertawe Mwy Diogel
Drwy gydol mis Rhagfyr bu Paul Evans, Cydlynydd Diogelwch Cymunedol Cyngor Abertawe yn gweithredu ac yn rheoli caban arbennig Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel. Roedd y caban ar gael i holl bartneriaid Abertawe Mwy Diogel ei ddefnyddio er mwyn cynnal arolygon, rhannu negeseuon cymunedol/personol pwysig gyda’r cyhoedd ac i ymgysylltu â grwpiau diamddiffyn a chyflawnwyr. Mae allfeydd gweithredol yn yr ardal gyfagos a cheidwaid canol y ddinas wedi adrodd am ostyngiad sylweddol yn nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, difrod troseddol a dwyn o siopau.