Yn y gyfraith diffinnir ymddygiad gwrthgymdeithasol fel “ymddygiad gan berson sy’n achosi, neu’n debygol o achosi, aflonyddwch, braw neu drallod i bobl nad ydynt o’r un aelwyd â’r person hwnnw.” Gall digwyddiadau ymddangos yn rhai bach, amhwysig, dibwys a gwneud i bobl amau eu hunain. Dydi pob achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol ddim yn drosedd, gall fynd yn raddol waeth, gall barhau am gyfnod hir a gall fod yn ddifrifol iawn. Gall effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol gynnwys cynnydd mewn gorbryder ac ofn, a gwneud i unigolion, teuluoedd a phobl mewn cymunedau deimlo’n anniogel ac yn methu â gadael eu cartrefi neu’n methu â chael mynediad at gyfleusterau neu rannau penodol o’u cymuned.
Enillydd: Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n cefnogi cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i fod yn ddiogel a chydlynol.
Cafodd y bartneriaeth ei henwebu am ddarn penodol o waith partneriaeth. Ers blynyddoedd lawer roedd maes parcio yn destun llawer o gwynion ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol – ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud â cherbydau yn bennaf a phobl ifanc yn bod yn niwsans mewn ardal dan gysgod. Gwnaethpwyd amrywiaeth o welliannau gweledol yn y lleoliad a chynnal prosiect celf stryd mawr i wneud yr ardal yn fwy lliwgar, deniadol ac i hyrwyddo teimlad o ddiogelwch. Mae’r cyfuniad yma o ymdrechion wedi arwain at newid yn nefnydd y gofod, sydd bellach yn cynnal gweithgareddau i bobl ifanc a gweithdai ffitrwydd i deuluoedd, gan helpu iechyd corfforol a meddyliol pobl a gwneud y mwyaf o’r gofod lliwgar a gwell yma. Yn bwysicach fyth, mae nifer yr adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi lleihau’n sylweddol.
Cymeradwyaeth Uchel: Heddlu De Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Landlord Cymdeithasol Cofrestredig Cartrefi Cymoedd Merthyr.
Pwrpas ymyrraeth y bartneriaeth oedd cau eiddo a nodwyd yn gyflym, a oedd yn cael ei ddefnyddio i gyflawni niwsans / anhrefn a throseddau. Y nod oedd diogelu’r gymuned rhag niwed pellach a diogelu tenantiaid yr eiddo. Drwy gael Gorchymyn Cau Rhannol am dri mis i atal ymwelwyr rhag mynd i’r cyfeiriad hwn, nid oes adroddiadau wedi dod i law am niwsans, anhrefn, nac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr eiddo, nac ymwelwyr yn ymweld. Cyflawnwyd hyn heb wneud unrhyw un yn ddigartref.