Caethwasiaeth fodern yw camfanteisio ar bobl yn anghyfreithlon er budd personol neu fasnachol. Mae’n ymdrin ag ystod eang o gamdriniaeth a chamfanteisio gan gynnwys camfanteisio’n rhywiol, caethwasanaeth domestig, llafur dan orfod, camfanteisio troseddol a chynaeafu organau. Mae’r Swyddfa Gartref wedi disgrifio caethwasiaeth fodern fel “trosedd ddifrifol a chreulon lle bydd pobl yn cael eu trin fel nwyddau a chamfanteisir arnynt er mwyn elwa’n droseddol”.
Enillydd a’r Enillydd Cyffredinol: Tîm Troseddau Blaenoriaethol Ardal Ganol Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer Ymgyrch Blue Tylluan
Ar gyfer eu rolau wrth orfodi’r gyfraith ac ymchwilio, yn enwedig o ran achos o gamfanteisio ar unigolyn ifanc drwy linellau cyffuriau. Lansiwyd ymchwiliad cymhleth yn seiliedig ar dystiolaeth, gan gydweithio gydag ystod o bartneriaid, yn cynnwys awdurdodau lleol a’r gwasanaeth prawf. Ym mis Hydref 2022 cafodd deg troseddwr eu canfod yn euog, gan dderbyn dedfrydau o hyd at ddeng mlynedd yn y carchar. Cafodd saith euogfarn am fasnachu mewn pobl a chwech am gynllwynio i gyflenwi heroin a chocên, er gwaethaf y ffaith nad oedd y dioddefwr wedi bod yn rhan o’r ymchwiliad. Yn ogystal, cyhoeddwyd tri Gorchymyn Atal Caethwasiaeth a Masnachu Mewn Pobl, un Gorchymyn Caethwasiaeth a Pherygl Masnachu Mewn Pobl a dau orchymyn atal, gan sicrhau diogelwch y plentyn a dioddefwyr posibl yn y dyfodol.
Wrth wobrwyo’r enillydd cyffredinol nododd y Panel fod Ymgyrch Blue Tylluan wedi arddangos arfer gorau, diogelu plant a phobl ddiamddiffyn, adnabod a diogelu unigolion sy’n cael eu camfanteisio a defnyddio pecynnau, pwerau a chyfreithiau i gadw pobl gogledd Cymru a thros y ffin yn Lloegr yn ddiogel.