Bydd Cynhadledd Flynyddol CLlLC 2025 yn digwydd wyneb yn wyneb yn Venue Cymru (Llandudno) ar 18 a 19 Mehefin. Bydd y gynhadledd yn archwilio ac yn trafod sut y dylai llywodraeth leol barhau i esblygu ac addasu i ddiwallu anghenion trigolion ar gyfer y dyfodol.
Mae’r llinell o siaradwyr yn cynnwys wleidyddion blaenllaw o lywodraeth leol a chenedlaethol, ynghyd â chynrychiolwyr o’r byd academaidd, busnes a’r trydydd sector. Bydd hwn yn gyfle euraidd i rwydweithio gyda ffigyrau allweddol o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.
Bydd Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru hefyd yn cynnal digwyddiad ymylol yn y gynhadledd mewn partneriaeth â CLlLC: Deall yr agenda eithafiaeth. Bydd y digwyddiad rhyngweithiol hwn yn rhoi cyfle i ddeall yr heriau ac archwilio’r cyfleoedd i ddatblygu dull effeithiol, cydweithredol yn ogystal â nodi meysydd ar gyfer datblygu.
Mae’r gynhadledd hon – a fydd yn digwydd bron i flwyddyn wedi Etholiad Cyffredinol y DU, a llai na blwyddyn cyn Etholiad Senedd Cymru yng ngwanwyn 2026 – yn argoeli i fod yn un o ddigwyddiadau sector cyhoeddus pwysicaf 2025.
Mae rhagor o wybodaeth am y gynhadledd a dolen i lawrlwytho ffurflenni archebu ar gael ar wefan CLlLC.
Amseroedd
Dydd Mercher 18 Mehefin
13:00 Dechrau’r Gynhadledd
16:30 Diwedd Diwrnod 1
18:00-19:00 Derbyniad y Gynhadledd (Venue Cymru)
Dydd Iau 19 Mehefin
09:30 Dechrau Diwrnod 2
17:00 Diwedd Diwrnod 2
19:30 Swper y Gynhadledd