Yn dilyn cyflwyno’r Ddyletswydd Trais Difrifol, ar draws Cymru bydd partneriaid yn gyfarwydd â’r gofynion a osodwyd ar y partneriaethau i gynnal Asesiadau Anghenion Strategol a gyflwynwyd y llynedd.
Mae’r sesiwn hon yn achub ar y cyfle i adolygu’r Asesiadau Strategol hynny ac yn ceisio rhoi trosolwg o ble rydym ni, unrhyw wersi a ddysgwyd a bydd yn ceisio egluro’r strwythur llywodraethu o amgylch Cymru yn y maes hwn.
Mae’r sesiwn wedi’i hanelu at yr holl ymarferwyr diogelwch cymunedol sydd â diddordeb mewn Trais Difrifol a’r llywodraethu o amgylch y ddeddfwriaeth.
Mae’r seminar hon yn rhan o Gyfres Seminar Gwanwyn/ Haf 2024 Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru.
I gofrestru ar gyfer y seminar hwn cliciwch yma