Pobl ifanc ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol mewn hen glwb nos adfeiliedig
<<Yn ôl i Astudiaethau Achos
Roedd clwb nos wedi cau a’r adeilad yn adfeilio. Gan fod yr adeilad mewn lleoliad tawel, hygyrch ac agored, gyda lloches a heb oleuadau, roedd cynnydd wedi bod mewn adroddiadau yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y lleoliad.
Roedd yr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys tanau bwriadol, yfed dan oed, delio cyffuriau, grwpiau mawr o bobl ifanc yn codi ofn, a difrod i’r clwb nos a’r ardaloedd/ adeiladau cyfagos.
Roedd hyn wedi arwain at densiwn yn y gymuned a rhagor o alw am y Tîm Plismona yn y Gymdogaeth ac asiantaethau partner lleol eraill, gan gynnwys y Gwasanaeth Tân.
Rhoddwyd cynllun ar waith yn defnyddio’r fethodoleg datrys problemau OSARA (amcan, sganio, dadansoddi, ymateb ac asesu) gan yr Heddlu a defnyddiwyd dull amlasiantaeth i fynd i’r afael â’r problemau yn yr ardal.
Rhoddwyd gwybod i asiantaethau ac adrannau amrywiol gan gynnwys WCADA (Canolfan Gweithredu ar Ddibyniaeth a Chaethiwed Cymru), Gwasanaeth Tân ac Achub, Partneriaethau Alcohol Cymunedol, yr Heddlu, Gorfodaeth Gwastraff yr Awdurdod Lleol, Trwyddedu, Safonau Masnach, perchnogion busnesau lleol a swyddogion y cyngor lleol am y problemau ac mae’r rhain wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau yn y lleoliad a lleihau’r tensiwn a’r galw yn y gymuned.
Mae’r gwaith amlasiantaeth a gwblhawyd i fynd i’r afael â’r broblem yn cynnwys:
- Penwythnos o weithredu gydag asiantaethau partner i ymgysylltu gyda phobl ifanc ac atal y problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Ymwelodd Swyddog Addysg Tanau Bwriadol ag ysgolion lleol i gynnal gwersi gyda’r grwpiau oedran a nodwyd.
- Cynhaliwyd patrolau gwelededd uchel wedi’u targedu ar yr adegau penodol a nodwyd yn yr adroddiadau.
- Rhoddwyd posteri ymddygiad gwrthgymdeithasol a thannau bwriadol mewn lleoliadau allweddol.
- Aeth yr Awdurdod Lleol i’r afael â’r graffiti yn yr ardal.
- Ymdriniodd Gorfodaeth Gwastraff â’r sbwriel a’r fermin posibl yn y lleoliad gan ystyried cymryd camau gorfodi.
- Mynychodd y Tîm Plismona yn y Gymdogaeth lleol, y Swyddog Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Ymgynghorydd Gostwng Troseddau Tactegol a’r Swyddog Lleihau Tannau Bwriadol y lleoliad i siarad gyda’r perchennog, nodi risgiau a darparu cyngor gwella diogelwch/ atal troseddu. Ymgrymodd y perchennog busnes â gwaith clirio’r tir a’r gwelliannau a awgrymwyd.
- Mynychodd Swyddogion Tenantiaethau siopau lleol i ail-addysgu staff am werthu alcohol i bobl dan oed a’u hatgoffa i herio oedolion ifanc gyda phobl ifanc.
- Cymerodd Uwch Swyddogion Rheoli o’r Ysgol Gyfun leol ran mewn patrôl gyda Swyddog Cyswllt yr Heddlu ag Ysgolion, lle nodwyd ac ymgysylltwyd â phobl ifanc.
Mae perchnogion yr adeilad wedi trawsnewid y safle, sydd bellach yn cael ei brydlesu i tenant newydd. Mae’r adeilad ar agor i bob oedran, saith diwrnod yr wythnos, ac mae bellach yn cynnig rhywle diogel i bobl ifanc fynd a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n eu hintegreiddio gyda’r gymuned ehangach.
Yn sgil defnydd a hygyrchedd newydd yr adeilad, nid oes unrhyw broblemau mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi’u nodi yn y lleoliad.
Mae’r adeilad a’r tiroedd hefyd yn cael eu diogelu gan giatiau wedi’u cloi ym mhob mynedfa, sydd wedi rhwystro’r bobl ifanc rhag ymweld ac ymgynnull yn yr ardal.