Neidio i'r prif gynnwys

Gwobrau Cyntaf Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn Abertawe ar 30 Tachwedd 2023

Gwobrau Cyntaf Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn Abertawe ar 30 Tachwedd 2023

Heddiw, dydd Iau 30 Tachwedd 2023, 14:00- 17:00, bydd Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru  yn cynnal y Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel cyntaf yn y Village Hotel yn Abertawe i ddathlu gwaith prosiectau, partneriaethau a phobl sydd wrthi’n gwneud cymunedau’n fwy diogel ar hyd a lled Cymru.

Bydd siaradwyr o’r partneriaethau’n cynnwys Llywodraeth Cymru, y Gwasanaethau Tân ac Achub, y Cynghorau a’r Heddlu yng Nghymru, a’r eicon o Gymru, Lynn Bowles fydd yn arwain.

Meddai Lynn Bowles, darlledwr a chyflwynydd radio:

“Rwyf yn falch iawn o arwain Gwobrau cyntaf Cymunedau Mwy Diogel heddiw, bydd yn gyfle gwych i gydnabod unigolion y mae eu hymroddiad yn cael effaith mor bositif ar gymunedau ar draws Cymru”.

Mae’r Seremoni Wobrwyo yn gyfle i ddathlu ac arddangos y gwaith gwych sydd ar y gweill ar hyd a lled Cymru i atal, lleihau a gwneud cymunedau’n fwy diogel mewn meysydd fel Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trais yn Erbyn Merched a Genethod a Chamfanteisio.

Caiff y Rhwydwaith ei oruchwylio gan Fwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru, sydd â’r nod o sicrhau y darperir arweinyddiaeth effeithiol ar y cyd i helpu partneriaethau lleol sy’n hyrwyddo cymunedau diogel, cryf a hyderus.

I gael rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith, ewch i www.cymunedaumwydiogel.cymru a dilynwch @CymMwyDiogel  ar X (yr hen Twitter) i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Meddai’r Gwir Anrhydeddus Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru a Chyd-gadeirydd Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru:

“Rwyf yn hynod falch o gael cefnogi Seremoni gyntaf Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel ar 30 Tachwedd. Fel Cyd-gadeirydd Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru, mae’n bwysig dathlu cryfder Partneriaethau Diogelwch Cymunedol sy’n ymateb i anghenion lleol a darparu mentrau sydd wir yn newid bywyd ac sy’n gwneud ein cymunedau’n fwy diogel. Rydym yn gwneud hyn yn well yng Nghymru oherwydd ymrwymiad y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, Prif Gwnstabliaid ac Awdurdodau Lleol i weithio gydag asiantaethau eraill yn cynnwys y Gwasanaethau Tân a’r Sector Gwirfoddol a gyda chefnogaeth weithredol Llywodraeth Cymru. Dyma gyfle i ddathlu’r gwaith presennol, i ddysgu gan y naill a’r llall a chymryd camau pellach i gadw ein cymunedau’n ddiogel hyd yn oed yn y cyfnodau caled hyn.”

Meddai’r Cynghorydd Jane Mudd (Casnewydd), Llefarydd CLlLC dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chyd-gadeirydd Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru:

“Fel pob gwasanaeth cyhoeddus, mae Llywodraeth Leol yn gorfod ymateb i alwadau’r cyhoedd gyda llai o adnoddau a than amodau sy’n mynd yn fwy a mwy anodd.  Ac eto, mae’r balchder wrth ddarparu gwasanaethau’n parhau ac fel Cyd-gadeirydd Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru, rwy’n falch iawn o gefnogi’r Gwobrau hyn gan ei fod yn dangos angerdd ac ymroddiad y gweithwyr gwydn ar draws Cymru sy’n gweithio’n ddiflino i wneud bywydau pobl yn fwy diogel.”

Meddai Mark Brace, Pennaeth Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru:

“Mae’r Seremoni Wobrwyo hon yn llwyfan i arddangos yr amrywiaeth o waith gwych sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru ac mae’n bleser i’r Rhwydwaith allu dod â chydweithwyr ynghyd i ddathlu’r unigolion a’r meddwl arloesol sy’n gwneud i newid ddigwydd.”